Marwolaeth dyn: Tân 'ddim yn amheus'

Saron

Nid yw tân mewn tŷ lle bu farw dyn yn ei 80au yn cael ei drin fel un amheus, yn ôl y Gwasanaeth Tân.

Cafodd criwiau achub eu galw i'r eiddo ym mhentref Saron ger Caernarfon am tua 16:50 ddydd Mawrth.

Yn fuan wedyn cafwyd hyd i gorff dyn yn y tŷ oedd wedi ei ddifrodi gan fwg.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ag Achub Gogledd Cymru fod swyddogion yn bwriadu dychwelyd i'r tŷ ddydd Mercher i geisio darganfod achos y tân.