'100 o ddyddiau' i wella gwasanaeth canser
- Published
Bydd gwasanaethau ac amseroedd aros i gleifion canser yn gwella wrth i fyrddau iechyd Cymru lunio cynlluniau 100 diwrnod, meddai'r Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething.
Ym mis Hydref, dechreuodd 80% o gleifion ar driniaeth o fewn y targed o 62 diwrnod (483 allan o 596 o bobl), i lawr o 85.6% ym mis Medi (1,500 allan o 1,753 o bobl).
Dywedodd Mr Gething bod angen i rai byrddau iechyd "weithio'n galetach" ar amseroedd canser.
Mae'r Ceidwadwyr yn dweud fod y ffigyrau'n "achos pryder mawr".
Dyw'r targed o 95% ddim wedi ei gyrraedd ers 2008.
Blaenoriaethau
Mae cynlluniau'r byrddau iechyd yn rhoi blaenoriaeth i:
- ddarparu'r apwyntiad allanol cyntaf o fewn 10 diwrnod gwaith
- cwblhau diagnosis a chytuno ar driniaeth o fewn 31 diwrnod
- llenwi swyddi gwag
- gwella mynediad i wasanaethau diagnostig
"Rwyf wedi cwrdd â phob bwrdd iechyd i drafod sut y gall GIG Cymru wella perfformiad yn y maes hwn ac rwyf wedi gofyn iddyn nhw gynhyrchu cynlluniau 100 diwrnod i wella gwasanaethau lleol a'u hannog i gydweithio ar lefel rhanbarthol," dywedodd Mr Gething.
"Rwy'n disgwyl i'r GIG cyflwyno'r cynlluniau ar unwaith fel y bydd cleifion a'r cyhoedd yn gweld gwelliant yn y misoedd nesaf."
Sefyllfa 'chwerthinllyd'
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar Iechyd, Darren Miller fod targed gweinidogion Llafur "wedi ei fethu'n gyson ers saith mlynedd" ac y bydd "cymunedau'n gofyn pryd - os o gwbl - fydd perfformiad yn cyrraedd lefel dderbyniol."
Disgrifiodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty William y sefyllfa fel un "sydd bron yn chwerthinllyd" a dywedodd ei bod hi'n "anodd credu" fod gweinidogion "yn fodlon caniatau i gynifer o gleifion canser orfod aros cyhyd am driniaeth".