Gwraig 82 yn ddieuog o droseddau rhyw
- Cyhoeddwyd

Mae gwraig 82 oed o Gaerdydd yn ddieuog o gyhuddiadau iddi gyflawni troseddau rhyw ar ferch ifanc.
Roedd Elizabeth Mulcahy o Landaf yn wynebu chwe chyhuddiad o ymosod yn anweddus ar ferch o dan 13 oed.
Clywodd y llys honiadau o gyfnod rhwng diwedd y 1970au a'r 1980au cynnar ond roedd y cyhuddiadau, meddai Ms Mulcahy, yn "gelwydd pur".
Wedi achos barodd wythnos yn Llys y Goron Caerdydd roedd Ms Mulcahy yn ddieuog o bob cyhuddiad.