Lansio cynllun i geisio amddiffyn mannau addoli
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, John S Turner
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgyrch i geisio amddiffyn mannau addoli hanesyddol.
Fe fydd y cynllun yn annog cynnal gweithgareddau cymunedol yn yr adeiladau.
Mae dros 3,000 o fannau addoli wedi'u rhestru yng Nghymru ond mae eu dyfodol yn y fantol, yn ôl y llywodraeth.
Y rheswm am hynny, meddai, yw bod llai o bobl yn eu defnyddio ac mae'n rhybuddio y bydd yna ddiffyg opsiynau ar eu cyfer mewn blynyddoedd i ddod.
Drwy gynnal gweithgareddau newydd yno, gallai'r adeiladau gael eu clustnodi fel asedau cymunedol neu eu defnyddio i bwrpas gwahanol.
Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Ken Skates, lansiodd yr ymgyrch wrth ymweld ag Eglwys Sant Silyn yn Wrecsam.