Gwrthdrawiad: Anafiadau difrifol iawn
- Published
Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd ger Deiniolen yng Ngwynedd fore Iau, 17 Rhagfyr.
Mae bywyd menyw mewn perygl oherwydd yr anafiadau a gafodd yn y digwyddiad.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r gwrthdrawiad yn agos i Garej Beran ychydig wedi 08:30 fore Iau pan fu car Mazda lliw arian a char Kia du mewn gwrthdrawiad â'i gilydd.
Dywedodd Sarjant Tony Gatley o Heddlu'r Gogledd: "Mae ymchwiliad llawn wedi dechrau ac fe hoffwn ni glywed gan unrhyw un oedd yn yr ardal ar y pryd ac a welodd y gwrthdrawiad neu'r digwyddiadau arweiniodd at hynny.
"Rydym yn cynghori gyrwyr i osgoi'r ardal lle bo modd gan y bydd oedi yn yr ardal am beth amser.
"Gofynnwn i bobl all fod o gymorth ffonio Uned Blismona Ffyrdd yr heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555111 gan ddyfynnu'r cyfeirnod S192013."
Does dim awgrym hyd yma pryd y bydd y ffordd yn gwbl glir.