Cwest i farwolaeth tad a mab ger Llantrisant

  • Cyhoeddwyd
Stuart Bates a Fraser Bates

Mae cwest i farwolaeth tad a mab yn dilyn gwrthdrawiad gyda char wedi ei agor a'i ohirio.

Bu farw Stuart Bates, 43 oed, a'i fab Fraser, saith oed, tra'n ceisio croesi ffordd yr A4119 ger Llantrisant ar gyrion pentref Tonysguboriau am tua 00:30 ddydd Sul 6 Rhagfyr.

Dywedodd Sarjant Tina Baxter o Uned Ymchwilio Damweiniau Difrifol yr Heddlu wrth y crwner fod gyrrwr wedi ei arestio yn lleoliad y gwrthdrawiad ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.

Cafodd y gyrrwr ei ryddhau ar fechnïaeth tan 7 Chwefror tra bod ymchwiliadau i'r gwrthdrawiad yn parhau.

Dywedodd Sarjant Baxter fod yr heddlu'n dal i edrych ar luniau camerâu cylch cyfyng ac yn casglu tystiolaeth gan lygad-dystion.

Fe wnaeth y Crwner dros Ben-y-bont, Powys a Dyffrynnoedd Morgannwg, Andrew Barclay, ohirio'r cwest tan 10 Mawrth er mwyn cynnal adolygiad cyn-gwest. Nid oedd y teulu yn bresennol yn y cwest ddydd Iau.