Carchar am dwyll 'damwain am arian'
- Cyhoeddwyd
DCI Richard Williams o Heddlu Gwent sy'n disgrifio sut oedd y criw yn gwneud arian o'r damweiniau
Mae 83 o bobl yn euog o fod yn rhan o gynllwyn "damweiniau am arian" gafodd ei ddisgrifio fel y rhwydwaith mwyaf o'i fath yn y DU.
Dywedodd yr heddlu fod y grŵp wedi hawlio bron i £1m o arian yswiriant wedi damweiniau ceir oedd wedi eu ffugio, ac mae'r Biwro Twyll Yswiriant wedi dweud bod y fath dwyll yn costio cannoedd o filiynau o bunoedd i yrwyr yn flynyddol.
Canolbwynt y twyll oedd garej ym Mhengam ger y Coed Duon, Sir Caerffili, Easyfix a St David's Crash Repair. Mae'r garej yn nwylo perchennog newydd erbyn hyn.
Dangosodd lluniau cylch cyfyng oedd wedi eu casglu gan Heddlu Gwent, berchnogion y garej, sef y teulu Yandell, yn difrodi cerbyd Landrover trwy ei yrru'n erbyn cerbyd arall er mwyn rhoi'r argraff fod y cerbyd wedi bod mewn damwain.
Dywedodd yr heddlu bod y teulu wedi cyflawni'r gwasanaeth yma i nifer fawr o ffrindiau a pherthnasau.
Mae 83 o bobl o Sir Caerffili, Caerdydd, Casnewydd a Phontypridd wedi eu cael yn euog am chwarae rhan yn y cynllwyn.
Mae'r dedfrydau hyd yn hyn yn cyrraedd cyfanswm o 60 mlynedd o garchar. Clywodd y rheithgor fod llawer o ddamweiniau dychmygol wedi eu lleoli ar ffyrdd ym Mhengam a'r Coed Duon.
Achlysuron arbennig
Dywedodd Heddlu Gwent fod y twyllwyr wedi amseru'r damweiniau twyllodrus er mwyn talu am achlysuron arbennig, dathliadau penblwydd a genedigaethau. Roedd gwerth y twyll yn erbyn cwmniau yswiriant yn werth dros £750,000.
Dywedodd yr heddlu fod Byron Yandell, Peter Yandell, Gavin Yandell, Rachel Yandell a Michelle Yandell yn ganolog i'r cynllwyn, gan redeg y rhwydwaith 'damweiniau am arian' mwyaf o'i fath a welwyd erioed ym Mhrydain.
Aeth rhai o'r diffynyddion i'r ysbyty wedi'r damweiniau dychmygol, er mwyn parhau gyda'r celwydd. Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod Byron Yandell wedi mynd i Ysbyty Tywysog Cymru ym Merthyr Tudful gan gwyno am "boen yn ei gefn".
Clywodd y rheithgor ei fod wedi derbyn diagnosis yn ddiweddarach am anafiadau oedd yn gyson â bod mewn damwain.
Hwn oedd yr achos twyll yswiriant mwyaf o'i fath oedd yn destun ymchwiliad gan heddlu ym Mhrydain ac roedd yn ymwneud â 28 cais yswiriant unigol a mwy na 50 o geir.
Dywedodd pennaeth yswiriant cwmni Admiral bod 55,000 o geisiadau yswiriant yn destun ymchwiliadau "damweiniau am arian" yn flynyddol.
Dywedodd y Biwro Twyll Yswiriant fod twyll o'r math yma yn costio dros £300m i yrwyr yn flynyddol.