Dyn yn euog o geisio llofruddio cariad
- Cyhoeddwyd

Mae dyn o Gaerdydd wedi ei gael yn euog o geisio llofruddio ei gariad ar ôl iddi ddarganfod bod ganddo fideo o ddynes mewn bath.
Roedd Arnel Raymundo, 48 o ardal Grangetown, wedi'i gyhuddo o drywanu Anna Caladiao, 43, sawl gwaith yn ei chefn ar ôl iddi ddweud y byddai'n rhaid iddo symud allan.
Clywodd y llys bod Miss Caladiao wedi dioddef anafiadau oedd yn peryglu ei bywyd.
Fe gafwyd Mr Raymundo yn euog o gyhuddiad o sbecian hefyd.
'Ofn'
Clywodd y llys bod Miss Caladiao wedi llwyddo i ddianc allan o'r tŷ, a dywedodd llygad-dystion bod gwaed drosti.
Cafodd y fam i ddau o blant ei chludo i'r ysbyty, lle'r oedd hi yn yr uned gofal dwys am chwe diwrnod.
Clywodd y llys bod Mr Raymundo wedi gadael Caerdydd yn dilyn yr ymosodiad. Cafodd ei arestio yn Llundain bron i bythefnos yn ddiweddarach.
Roedd Mr Raymundo wedi dweud wrth yr heddlu bod Miss Caladiao wedi rhoi cyffur crystal meth iddo, a'i fod wedi dechrau trywanu yn ystod breuddwyd oherwydd bod ganddo "ofn".