Saith Diwrnod

  • Cyhoeddwyd
Cymru
Disgrifiad o’r llun,
Taulupe Faletau - un o ddynion M-A-W-R Cymru

Catrin Beard yn trafod y pynciau sydd wedi denu ei sylw yn ei hadolygiad wythnosol o'r wasg Gymraeg a'r blogiau ar y Post Cyntaf.

Roedd Vaughan Hughes yn gwirioni a gorfoleddu dri mis yn ôl pan drechodd Cymru Loegr yng Nghwpan y Byd, ac wrth weld cais bythgofiadwy Gareth Davies, a ddeilliodd o gic athrylithgar Lloyd Williams, oedd yn glasur gwefreiddiol a bythgofiadwy, ond mae'n gresynu yn Barn mai prin yw'r adegau pan welwn unrhyw beth sy'n ymylu ar artistwaith o'r fath ar feysydd rygbi'r oes sydd ohoni.

Mae chwaraewyr heddiw'n ddynion M-A-W-R. Eithriadol a hynod o fawr. Ai dim ond yn 2012 yr ymddeolodd y dewin bychan Shane Williams?

Mae Vaughan yn ofni, ag aralleirio Waldo, na ddaw dydd byth eto pan fydd mawr y rhai bychain. Ac wrth fynd yn fwy corfforol, dywed, mynd yn fwy diflas hefyd wnaiff rygbi.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Gwyliau cenedlaethol i wylio Cymru v Lloegr? Dim diolch, medd Ifan Morgan Jones

Mae Lefi Gruffudd yntau'n poeni, ond am bêl-droed. Dywed yn y Western Mail fod sefyllfa'r Elyrch yn bryderus ac mae'r ffaith fod Fifa yn ymddwyn fel rhyw fath o maffia Sisiliaidd yn neud i chi boeni am hygrededd y gêm.

Ac o ran Garry Monk, mae'n holi ym mha yrfa byddech chi ym mis Awst yn cael eich disgrifio fel rheolwr mwyaf addawol Prydain a darpar reolwr Lloegr ac o fewn tri mis yn cael eich diswyddo?

A dyw Ifan Morgan Jones ddim yn hapus chwaith. Ar flog Golwg 360, mae'n sôn bod Plaid Cymru wedi galw am ddiwrnod sifig o wyliau cenedlaethol er mwyn caniatáu i bawb yn y wlad gael gwylio gêm Cymru yn erbyn Lloegr yn Ewro 2016.

Holi wna Ifan a yw Plaid Cymru wir yn disgwyl y bydd yr ŵyl yn cael ei chaniatáu gan Lywodraeth San Steffan? Os na, ac mae'n annhebygol y bydd, beth yw'r pwynt galw am y fath beth?

Ddylai pleidiau gwleidyddol ddim dechrau ymgyrchoedd nad ydyn nhw'n disgwyl eu hennill, am mai'r unig ganlyniadau posib yw methu, neu gael eich gweld fel plaid sydd ddim yn gyfan gwbl o ddifrif.

Does gan Ifan, fel sawl un arall, ddim diddordeb eithriadol mewn gwylio pêl-droed. Ac mae'n siŵr bod gan y rheini sy'n torri bol eisiau gwylio'r gêm ddigon o wyliau er mwyn cymryd prynhawn o'r gwaith os oes wir angen.

Disgrifiad o’r llun,
Daniel Jones, cyd-sylfaenydd Eglwys Jedi-aeth

Dywed rhai fod chwaraeon wedi disodli crefydd yn y ffordd mae'n rhoi pwrpas i fywydau rhai pobl, ond yn wythnos agor ffilm newydd Star Wars, mae Cymru Fyw wedi bod yn siarad â gŵr o Gaergybi aeth ati gyda'i gyfeillion i sefydlu eglwys, a honno'n seiliedig ar system gred ac ideoleg y Jedi, ymladdwyr glew ffilmiau George Lucas.

Yn ôl Daniel Jones, egwyddor graidd Eglwys Jedi-aeth yw deall bod yna rym hollalluog sy'n plethu pob peth byw yn y bydysawd gyda'i gilydd. Heb y ddealltwriaeth honno, fyddwch chi ddim yn gallu bodoli ac hebddoch chi fyddai'r grym nerthol yna ddim yn gallu bodoli chwaith.

Prif amcanion y system gred yw helpu'r aelodau i fyw yn heddychlon, ac i ddefnyddio ynni positif a allai gyfrannu i wneud y byd yn lle hapusach a mwy dedwydd. Wel gall neb ddadlau gyda hynna, siawns, ond fel rhan o hyfforddiant yr aelodau, mae'r eglwys hefyd yn eu dysgu sut i ymladd gyda ffyn golau - y lightsabers. Look out pobl Caergybi.

Mae bron yn Ddolig. Mae gan Elin Wyn Williams gyngor yn Barn ar sut i osgoi trafferth wrth baratoi bwydydd yr ŵyl. Symlder yw'r nod felly gwnewch restr. Un hirfaith. Rhannwch hi'n bedair adran - bwydlen yr ŵyl, cynhwysion sydd eu hangen, amserlen, amseru.

O diar, os mai dyma beth yw paratoadau syml, mae ar ben arna i.

Nadolig Llawen!