Cwtogiad o 0.6% i gyllideb yr heddlu ar gyfer 2016/17
- Cyhoeddwyd

Bydd cyllideb pedwar llu heddlu Cymru yn cael eu torri o 0.6% yn y flwyddyn ariannol nesaf, meddai'r Swyddfa Gartref.
Fe gadarnhaodd yr adran ddydd Iau bod lluoedd Lloegr a Chymru'n wynebu'r un cwtogiad yn 2016/2017 wedi i gynlluniau ar gyfer toriadau mwy gael eu diddymu.
Roedd rhai o benaethiaid yr heddlu wedi dychryn wrth baratoi at doriadau o hyd at 25% a 40% cyn Datganiad yr Hydref y Canghellor.
Ond fe benderfynodd George Osborne amddiffyn cyllideb yr heddlu gan ddweud mai "nid dyma'r amser" i'w cwtogi.
Tra bod lluoedd unigol am wynebu toriadau, bydd arian ychwanegol yn cael ei wario ar atal terfysgaeth.
Daw cyllideb yr heddlu o'r Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru a'r dreth cyngor.
Cyllidebau
Cyfanswm cyllidebau lluoedd Cymru ar gyfer 2016/17 ydi:
• Dyfed-Powys - £50m
• Gwent - £72.5m
• Gogledd Cymru - £72.7m
• De Cymru - £160m