Ysgol bentref ym Mhowys i gau ar ôl 290 mlynedd
- Cyhoeddwyd

Bydd ysgol ym Mhowys, sydd wedi bod ar agor ers bron i 300 mlynedd, yn cau ddydd Gwener.
Agorodd Ysgol Gynradd Llanddewi-yn-Chwytyn ger Trefyclo mewn ysgubor yn 1724 cyn ailagor yn 1767.
Dywedodd Cyngor Powys bod yr ysgol yn cau oherwydd niferoedd isel o ddisgyblion, a bod cost pob disgybl yn "llawer uwch na'r cyfartaledd ar hyd y sir".
Dim ond 15 o blant sy'n mynd i'r ysgol ac roedd trigolion yn gwrthwynebu'r penderfyniad i gau.
£500 i adeiladu'r ysgol
Roedd y cyngor wedi cymeradwyo'r cynllun i gau ym mis Gorffennaf 2014 ond oherwydd gwrthwynebiad cafodd ei gyfeirio at y Gweinidog Addysg, Huw Lewis, gadarnhaodd y penderfyniad.
Roedd y Fonesig Anna Child wedi gadael adael ei ffortiwn, £500, i adeiladu ysgol yn "y pentref yr oedd hi'n ei garu" wedi iddi farw yn 1703.
Cafodd ymddiriedolaeth ei sefydlu ar gyfer yr ysgol gafodd ei fuddsoddi yn 147 erw o dir fferm sy'n amgylchynu'r ysgol - ac sy'n parhau i wneud arian hyd heddiw.
Bydd yr elw ar gyfer darparu gwisg ysgol i'r plant yn eu hysgolion newydd.