Celfyddydau: 'Digon i ddathlu'

  • Cyhoeddwyd
collage cyflwr y celfyddydau

Digon i ddathlu a digon i ddod, medd Gohebydd Celfyddydau BBC Cymru Huw Thomas wrth ystyried y flwyddyn a fu a'r hyn sydd ar y gweill.

Yng Nghymru a thu hwnt roedd y celfyddydau wedi hawlio sylw a chlod eleni.

Dathliadau 150 y Wladfa oedd y llwyfan i gryn dipyn o berfformiadau, gyda'r Theatr Genedlaethol yn ymuno â National Theatre Wales i gyd-cynhyrchu sioe yn Aberdâr yn olrhain hanes rhai o gymeriadau'r cyfnod.

Aeth Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ar daith i Dde America fel rhan o'r dathliadau. Yn ystod cyfnod preswyl ym Mhorth Madryn, Trelew a Gaiman fe ymwelodd y cerddorion ag ysgolion, cartrefi'r henoed a grwpiau cerddorol ble mae'r Gymraeg yn ffynnu.

Yn ôl Catrin Finch, oedd ar y daith arbennig hon, cerddoriaeth oedd yn cynnal yr iaith ym Mhatagonia.

Disgrifiad o’r llun,
Roedd gwaith Helen Sear yn canolbwyntio ar goedwig ger Brynbuga

Dramor eto roedd un arall o Gymru yn gwneud argraff. Yn y biennale yn Fenis aeth Helen Sear â'i lluniau o gefn gwlad Sir Fynwy i'w rhannu gyda phwysigion y diwydiant celfyddydau rhyngwladol.

Roedd ei ffotograffau a'i fideo o'r goedwig ger ei chartref ym Mrynbuga wedi llwyddo i ddenu sylw'r beirniaid, a thwristiaid y ddinas Eidalaidd.

Yn Llundain roedd rhai o drysorau'r Orsedd ymhlith y gwrthrychau hanesyddol yn arddangosfa arloesol Amgueddfa Prydain am y Celtiaid. Baneri, gwisgoedd a gweithiau arian hanesyddol yr Orsedd oedd yn yr un stafell gyda gemwaith, offer a cherfluniau yr hen Geltiaid.

Tipyn o newid

Disgrifiad o’r llun,
Roedd Terry Hands yn gyfarwyddwr Clwyd Theatr Cymru am fwy na 17 mlynedd

Nôl yn y famwlad roedd tipyn o newid tu ôl i lenni ein theatrau. Fe adawodd Terry Hands ei swydd hirdymor fel cyfarwyddwr artistig Theatr Clwyd ond cyn gadael fe rybuddiodd fod gormod o gyfrifwyr yn y diwydiant erbyn hyn.

Fe agorodd drysau Pontio o'r diwedd yn 2015. Doedd hi ddim yn bosib cuddio'r cyffro wrth i staff y ganolfan ddechrau croesawu ymwelwyr am y tro cyntaf yn yr hydref, a hynny flwyddyn ar ôl i'r agoriad swyddogol cael ei ohirio.

Perfformiad o Chwalfa gan Theatr Genedlaethol fydd un o brif atyniadau'r celfyddydau yng Nghymru yn 2016.

Yn y flwyddyn newydd bydd National Theatre Wales yn datgelu olynydd i'w cyfarwyddwr artistig John McGrath sy'n gadael am swydd newydd ym Manceinion saith mlynedd ers iddo sefydlu'r cwmni.

Fe fydd cadeirydd newydd yn ymuno â'r Cyngor Celfyddydau yn ystod cyfnod ble mae'r arian yn dynn o hyd er nad yw'r creadigrwydd yn crebachu.

Disgrifiad o’r llun,
Mae disgwyl i Chwalfa fod ymysg uchwafbwyntiau'r Theatr Genedlaethol yn 2016

Dahl yn holl-bresennol

Roald Dahl, mae'n debyg, ydy'r enw fydd yn holl-bresennol yn 2016.

I ddathlu canmlwyddiant geni'r awdur yng Nghaerdydd, bydd strydoedd y ddinas yn llwyfan i benwythnos o berfformiadau wedi'u cydlynu gan Ganolfan Mileniwm Cymru a National Theatre Wales.

Shakespeare fydd yr enw amlwg arall yn 2016. Fis Ebrill fe fydd hi'n 400 mlynedd ers iddo farw, ac mae 'na lu o lyfrau, cynhyrchiadau a rhaglenni teledu ar y gweill i ddathlu'i fywyd.

Yng Nghaerdydd bydd yr Amgueddfa Genedlaethol yn codi tâl mynediad i arddangosfa am y tro cyntaf ers achau. Bydd rhaid talu £7 i fynd i arddangosfa Trysorau ym mis Ionawr (er bod plant yn cael mynediad am ddim).

Bydd rhai o wisgoedd ac offer Indiana Jones yno ynghyd â'r gwrthrychau archeolegol oedd wedi ysbrydoli'r ffilmiau.

Does dim bwriad i godi tâl i ymweld â gweddill yr amgueddfa ond os ydy'r Trysorau'n boblogaidd, fe fydd mwy o sioeau o'r fath yn y dyfodol.

Ffynhonnell y llun, Paramount/© & TM 2015 Lucasfilm, Ltd