Rhybuddion glaw trwm yn parhau
- Cyhoeddwyd

Mae rhybudd melyn o law trwm yn parhau ar gyfer nos Sadwrn a dydd Sul ar gyfer ardaloedd helaeth o Gymru.
Rhannau o dde Cymru welodd y glaw trymaf ddydd Sadwrn, ond roedd disgwyl mwy o law yn ystod y nos.
Fe fydd y glaw yn lledu i ogledd Cymru nos Sadwrn a dydd Sul.
Yn ystod y dydd roedd gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ddau rybudd am y posibilrwydd o lifogydd.
Roedd y rhybuddion ar gyfer dwy ardal yn sir Gaerfyrddin, Pontargothi a Pontynyswen, ac Abergwili.
Dywed CNC y dylai pobl ddisgwyl i rai ffyrdd gael eu cau ddydd Sul oherwydd effaith y glaw.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd fe allai'r ucheldiroedd ym Mannau Brycheiniog weld hyd at 3 modfedd o law, tra bod rhybudd y gallai Eryri ac ardaloedd eraill yn y gogledd weld hyd at 2.4 modfedd.
Mae'r rhybudd melyn yn weithredol tan 09:00 fore Sul, ac yn debyg o effeithio ar siroedd Ceredigion, Gwynedd, Powys, Sir Ddinbych, Sir Gâr, Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Conwy, Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Sir Benfro a Bro Morgannwg.