Llymder yn taro 'enaid cymdeithas', medd Archesgob
- Cyhoeddwyd

Mae Archesgob Cymru wedi rhybuddio bod llymder yn effeithio ar "enaid cymdeithas" yng Nghymru.
Wrth edrych yn ôl ar 2015, dywedodd Dr Barry Morgan wrth raglen Sunday Supplement ar BBC Radio Wales bod cynghorau'n cael eu gorfodi i gau llyfrgelloedd ac adnoddau cymunedol - rhywbeth yr oedd yn ei ddisgrifio fel "sefyllfa enbyd".
Dywedodd Dr Morgan: "Maen nhw (y cynghorau) yn wynebu toriadau ariannol felly mae'n rhaid iddyn nhw eu gwneud yn rhywle - yn y diwedd y pethau y maen nhw'n gredu y gallan nhw dorri sy'n mynd.
"Wrth edrych nôl ar fy mhlentyndod fy hun mewn cymuned lofaol lle y gwnaeth glowyr frwydro er mwyn codi neuaddau cymuned a llyfrgelloedd... erbyn hyn maen nhw'n dweud wrthym y gallwch chi gael popeth ar y we ac nad oes angen llyfrgelloedd mwyach.
"Ond rwy'n credu bod hynny'n gwneud rhywbeth i enaid cymdeithas... mewn ffordd mae'n dweud nad yw'r meddwl na'r dychymyg yn cyfri."'
Dywedodd Dr Morgan hefyd y byddai'n cofio 2015 fel y flwyddyn yr aeth Prydain i ryfel yn Syria, gan ddweud nad oes dadl foesol i gefnogi hynny.
Ychwanegodd: "Mae'n gwneud i mi ofyn a ydyn ni wedi dysgu unrhyw beth o'n profiadau yn y Dwyrain Canol... rwy'n deall bod yr achos yn gyfiawn a bod y Wladwriaeth Islamaidd, fel mae'n cael ei adnabod, yn ddrwg, ond beth am y goblygiadau i'r trigolion cyffredin a sut mae'r cyfan yn mynd i orffen?
"Dydw i ddim yn heddychwr, ac rwy'n credu fod yna adegau pan mae'n rhaid i ni fynd i ryfel. Roedd yr Ail Rhyfel Byd yn rhywbeth yr oedd rhaid gwneud, ond dydw i ddim yn credu bod yna gymhariaeth yma.
"Mewn rhai ffyrdd rwy'n credu y gallai gweld ni'n mynd i mewn wneud i Fwslimiaid eithafol a phenboeth yn mynd i gredu 'wel os mai dyna y maen nhw'n gwneud i ni fe wnawn ni fod yn fwy eithafol'."
'Da yn gorchfygu'r drwg'
Dywedodd yr Archesgob hefyd ei fod yn credu bod cymariaethau rhwng stori'r Nadolig a stori ffilm fawr y flwyddyn Star Wars: The Forec Awakens.
Meddai: "Stori sylfaenol y ffilm yw da yn gorchfygu'r drwg. Adeg y Nadolig ry'n ni'n meddwl am Iesu Grist fel goleuni'r byd, ac mae 'light sabres' yn symbol o obaith.
"Pan welwch chi unigolion a chymunedau yn gwneud safiad am yr hyn sy'n iawn... pan welwch chi bobl yn cael eu helpu mewn pob math o ffyrdd... pan welwch chi uwchgynhadledd Paris a 195 o wledydd yn cytuno... mae hynny'n rhoi gobaith i mi y bydd goleuni yn gorchfygu yn y pen draw."