Birmingham 1-0 Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Penderfyniad dadleuol y dyfarnwr David Coote ym munud ola'r hanner cynta' oedd yn golygu fod Caerdydd yn gadael St Andrew's yn waglaw nos Wener.
Fe roddodd gic o'r smotyn yn erbyn amddiffynnwr Caerdydd Matt Connolly am lawio, er i'r bêl daro ei wyneb - eilydd Birmingham Paul Caddis fanteisiodd.
Cafodd Caerdydd gyfle ar ôl cyfle - fe ddylai Bruno Manga wedi gwneud yn well gyda pheniad ac roedd Tony Watt yn achosi pob math o broblemau - ond er iddyn nhw sgorio deg gôl yn eu pedair gêm ddiwethaf, roedd hi'n noson rwystredig.
Roedd un cyfle gwych arall yn hwyr yn y gêm gyda Sammy Ameobi yn taro'r bêl heibio'r postyn gyda dim ond y golwr i'w guro.
Er iddyn nhw daflu popeth at y tîm cartref, mae tîm Russell Slade yn colli am y tro cyntaf mewn pum gêm, ond dyma berfformiad oedd yn haeddu llawer iawn mwy.