Casnewydd 2-2 Wimbledon
- Cyhoeddwyd

Alex Rodman yn dathlu
Fe wnaeth Casnewydd ildio mantais o ddwy gol gan orfod bodloni ar bwynt yn erbyn Wimbledon ar faes Rodney Parade.
Ergyd o bell gan Alex Rodman roddodd yr Alltudion ar y blaen, ac roedd hi'n 2-0 cyn yr egwyl ar ôl i Paul Robinson roi'r bêl drwy ei rwyd ei hun.
O fewn lai na hanner munud i ddechrau'r ail hanner tarodd Lyle Tayor i Wimbledon.
Ac fe gafodd o ei ail gyda 11 munud yn weddill.
Cyn diwedd y gêm fe gafodd Lenell John-Lewis y bêl yn y rhwyd ddim ond i'r dyfarnwr ddweud fod yna gamsefyll.
Golygai'r canlyniad fod Casnewydd yn symud i'r ugeinfed safle.