Bordeaux 33-27 Gweilch

  • Cyhoeddwyd
Justin TipuricFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Justin Tipuric sgoriodd cais cyntaf y Gweilch

Fe wnaeth y Gweilch lwyddo i sicrhau dau bwynt bonws er iddynt golli yn Ffrainc i Bordeaux-Begles yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop.

Golygai'r canlyniad fod eu gobeithion o gyrraedd y rownd nesaf yn parhau yn fyw.

Aeth Bordeaux i'r egwyl 25-10 ar y blaen diolch i geisiadau gan Julien Rey, Berend Botha a Sofiane.

Unig gais y Gweilch yn yr hanner cyntaf oedd un Justin Tipuric.

Ond tarodd yr ymwelwyr yn ôl wedi'r egwyl, Eli Walker, Alun Wyn Jones a Dan Biggar yn croesi.

Mae'r Gweilch yn parhau ar frig Grŵp 2, dau bwynt ar y blaen i Gaerwysg sy'n ymweld â Clermont Auvergne ddydd Sul.