Pau 17-34 Dreigiau
- Published
image copyrightHuw Evans picture agency
Fe wnaeth y Dreigiau sicrhau buddugoliaeth gyffyrddus a phwynt bonws yn erbyn Pau yng Nghwpan Her Ewrop.
Croesodd yr ymwelwyr am dair cais - Cory Hill, Ashton Hewitt a Jason Tovey - yn yr hanner cyntaf gan roi'r Dreigiau 24-0 yn gwbl haeddiannol ar y blaen.
Cais Carl Meyer wnaeth sicrhau'r pwynt bonws.
Er i Paddy Butler, Mosese Ratuvou a Watisoni Votu groesi'r llinell wen i'r tîm cartref doedd dim gwir fygythiad i'r Dreigiau
Golygai'r fuddugoliaeth fod y Dreigiau ar frig Grŵp 2, dau bwynt ar y blaen i Sale Sharks.