Cynnig brechiad HPV i ddynion hoyw
- Published
Bydd brechiad gwrth ganser yn cael ei gynnig i ddynion hoyw dan 45, meddai'r Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford.
Mae'r brechiad yn erbyn y Feirws Papiloma Dynol (HPV) wedi ei roi i ferched ysgol ers 2008, ac mae wedi ei gysylltu â chanser ceg y groth.
Yn ôl arbenigwyr fe allai'r brechiad hefyd gynnig amddiffyniad yn erbyn mathau eraill o ganser - sydd o bosib yn fwy cyffredin ymysg dynion hoyw.
Daw'r penderfyniad ar ôl i'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, sy'n rhoi cyngor annibynnol ac arbenigol i lywodraethau'r DU, argymell cyflwyno rhaglen o'r fath.
Bydd y rhaglen newydd wedi'i thargedu at ddynion 16 - 45 oed sy'n cael rhyw gyda dynion ac sy'n mynychu clinigau iechyd rhywiol arbenigol.
Fe wnaeth pwyllgor ymgynghorol hefyd argymell y brechiad ar gyfer pobl sy'n gweithio yn y diwydiant rhyw a phobl sy'n HIV positif.
Mae'r Cyd-bwyllgor yn parhau i ystyried a fyddai'n fanteisiol cynnig y brechiad HPV i bob bachgen yn ei arddegau. Disgwylir argymhelliad yn gynnar yn 2017.
Dywedodd yr Athro Drakeford: "Ychydig iawn o amddiffyniad anuniongyrchol mae dynion sy'n cael rhyw gyda dynion yn ei gael o'r rhaglen frechu hynod lwyddiannus yn erbyn HPV i ferched yn eu harddegau.
"Rwy'n falch iawn o gyhoeddi fy mod i wedi cymeradwyo cyflwyno rhaglen newydd i roi brechiad HPV i ddynion hyd at 45 oed sy'n cael rhyw gyda dynion eraill.
"Fe fyddwn yn ystyried yn ofalus sut i gyflawni'r rhaglen hon, ac yn gwneud cyhoeddiad pellach yn y man."