Hwb i ymgyrchwyr sydd am adfer llinell reilffordd

  • Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr am weld cyswllt rheilffordd rhwng Caerfryddin ac Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,
Mae ymgyrchwyr am weld cyswllt rheilffordd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth

Mae ymgyrchwyr sy'n ceisio ail-agor y llinell reilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin wedi croesawu'r penderfyniad gan Lywodraeth Cymru i gynnal cyfarfod yn y Flwyddyn Newydd i drafod y camau nesa.

Hyd at 60au`r ganrif ddiwethaf fe arferai'r llinell gludo nwyddau a phobl.

Mae astudiaeth gychwynnol wedi darganfod bod 97% o'r llinell yn dal i fodoli, gan amcangyfrif byddai'n costio rhwng £500m - £750m i'w hatgyfodi

Roedd y llwybr gwreiddiol o Gaerfyrddin yn mynd drwy Bencader, Llanybydder, Llanbed, yna Tregaron, Ystrad Fflur, Llanilar ac Aberystwyth.

Mae'n debyg fod y rhwystrau mwyaf i'r gwaith o adfer y gwasanaeth i'w canfod ger Aberystwyth.

Pan gaeodd y rheilffordd yn y 60au fe ehangodd tref Aberystwyth, ac mae tai wedi eu codi ar lwybr y llinell erbyn hyn.

Ffynhonnell y llun, other
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd y lein ei chau yn y 60au

Un posibilrwydd, yn ôl cefnogwyr y syniad, yw adeiladu twnnel drwy fryn Pendinas.

Yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd bydd y Gweinidog Trafnidiaeth, Edwina Hart, yn cyfarfod gyda'r ymgyrchwyr, cwmnïau rheilffordd a chynghorau Ceredigion a Sir Gaerfyrddin i drafod y camau nesa ar gyfer y cynllun - a'r posibilrwydd o gynnal archwiliad llawn.

Dywedodd yr AC lleol, Elin Jones, ei bod hi'n croesawu'r newyddion diweddaraf.

"Gyda chynllun o'r math yma, mae'n fater o gael tri pheth at ei gilydd.

"Y sicrwydd fod y cyllido yn gweithio yn iawn, yr holl waith cynllunio a chonsensws a hefyd yn olaf ac yn bwysig iawn, yr ewyllys gwleidyddol."

Dywedodd Mathew Rees o Trawsl Link Cymru ac un o gefnogwyr y cynllun fod angen rhoi'r gost yn ei gyd-destun.

"Os ydym yn ystyried fod £800 miliwn wedi ei wario ar ffordd Blaenau'r Cymoedd a £1 biliwn ar y draffordd newydd (M4) ac yna mae HS2 yn costio hyd at £80 biliwn - yn ôl beth ni'n deall.

"Felly yn hynny o beth bydd yr arian yma, o ystyried budd o ran cysylltiadau cendlaethol ddim yn llawer iawn i ofyn amdano."

Disgrifiad o’r llun,
Er bod tyfiant, mae tua 97% o'r llinell yn dal i fodoli.