Abertawe 0-0 West Ham

  • Cyhoeddwyd
Swansea v West HamFfynhonnell y llun, PA

Mae Abertawe yn parhau yn y tri isaf ar waelod yr Uwchgynghrair ar ôl gem ddi-sgor yn erbyn West Ham ar y Liberty.

Fe wnaeth yr Elyrch reoli'r hanner cyntaf yn llwyr, ac roedd yna gyfleodd da i Ki Sung-yueng ac Andre Ayew

Ar ôl yr egwyl roedd yna foli wych gan Jack Cork, ond arbediad da gan Adrian.

Roedd yna hefyd apêl am gic o'r smotyn gyda chwaraewyr Abertawe yn credu i amddiffynnwr West ham James Collins lawio'r bel.

Mae'r canlyniad yn golygu fod Abertawe yn aros yn safle 18, dau bwynt y tu ôl i'r timoedd uwch eu pennau.