ASau i gael bod yn weinidogion yn Llywodraeth Cymru?
- Cyhoeddwyd

Dylai Aelodau Seneddol Cymru gael bod yn weinidogion yn Llywodraeth Cymru, yn ôl corff sy'n cynrychioli cyfrifwyr yng Nghymru a Lloegr.
Mae Asiantaeth Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr yn dweud y byddai'n ffordd o gael cronfa fwy o dalent fel aelodau o'r cabinet ym Mae Caerdydd.
Maen nhw'n dweud fod system debyg eisoes yn gweithio yn San Steffan lle mae arglwyddi yn gallu bod yn rhan o gabinet llywodraeth Prydain.
Ond mae'r syniad yn amhoblogaidd ymhlith nifer o wleidyddion.
Rhagor o bwerau
Dros y blynyddoedd nesaf mae hi'n debygol iawn y bydd y Cynulliad yn derbyn nifer o bwerau newydd, yn cynnwys rhai pwerau trethu.
Mae yna deimlad ymhlith rhai Aelodau Cynulliad bod angen mwy o aelodau er mwyn iddyn nhw allu gwneud eu gwaith yn iawn.
Ar yr un pryd, mae rôl aelodau seneddol Cymru ar fin cael ei israddio. O dan y drefn newydd o 'Bleidleisiau Seisnig ar gyfer Deddfau Seisnig' yn San Steffan, fydd gan aelodau o Gymru ddim pleidlais ar faterion fel iechyd ac addysg sydd eisoes wedi'u datganoli.
Ac yn ôl Vaughan Jones o Asiantaeth Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr, mae'n arwain yn dwt iawn at newid y ffordd y mae ein gwleidyddion yn gweithio.
Ar hyn o bryd, dim ond aelodau cynulliad sy'n cael bod yn rhan o Lywodraeth Cymru. Ond petai yna gytuno ymhlith y gwleidyddion, mi fyddai'n bosib newid hynny i gynnwys aelodau seneddol hefyd.
'Dryslyd'
Yn ôl corff y cyfrifwyr, mae'n syniad sydd eisoes yn gweithio yn San Steffan, lle mae gan aelodau Tŷ'r Arglwyddi hawl i fod yn rhan o gabinet llywodraeth y DU.
Ond dywedodd Dr Rebecca Rumbul o Brifysgol Caerdydd y gallai hyn fod yn broblem i bleidleiswyr.
"Rwy'n credu y byddai'n eithaf dryslyd os ydych yn ceisio dewis pa aelod seneddol i bleidleisio drostyn nhw mewn Etholiad Cyffredinol, ac wedi meddwl am eu haddewidion yn ystod yr ymgyrchu a'r hyn yr oedden nhw am wneud yn San Steffan, a dim ond chwe mis yn ddiweddarach maen nhw'n troi i fyny yma yn Senedd," meddai.
"Rwy'n credu y gallai hynny fod yn ychydig yn ddryslyd i bobl."
'Annemocrataidd'
Mae cyn-lywydd y Cynulliad, yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas yn ystyried y syniad yn un annemocrataidd.
"Mae'r syniad fod pobl yn dod lawr i Gaerdydd, yn troi i fyny i fod yn weinidogion heb eu hethol yn mynd a ni nôl i gyfnod cyn democratiaeth gyffredin ac yn sicr cyn fod y Cynulliad mewn bod," meddai.
"Yn sicr, os oes rhywun yn awgrymu rhywbeth fel hyn, mae'n rhaid inni gael refferendwm ar frys."
Yn ôl AC y Democratiaid Rhyddfrydol, Peter Black, gallai'r syniad achosi mwy o broblemau: "Rwy'n credu - drwy ddod ASau i lawr yr M4 bob hyn a hyn i wneud eu swyddi gweinidogol - na fydden nhw'n gallu gwneud y naill swydd na'r llall yn iawn.
"Rwy'n credu y byddai llai o dryloywder a chraffu, gan na fyddan nhw ar gael ar gyfer sesiynau craffu gweinidogol fel mae Gweinidogion yn eu cael."
Fe ddywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies fod gan Gymru gyfle i newid ei gweinidogion a dewis "syniadau newydd" yn Etholiadau'r Cynulliad fis Mai 2016.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Gweinidogion yn cael eu dewis o aelodau etholedig y Cynulliad Cenedlaethol yn ddemocrataidd, ac nid ydym yn gweld angen i newid hynny."