Rhybudd arall am law trwm
- Cyhoeddwyd

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn arall ar gyfer tywydd drwg ddydd Mawrth.
Cafodd y rhybudd am law trwm ei gyhoeddi fore Llun, ac mae mewn grym o 00:15 tan 18:00 ddydd Mawrth, 22 Rhagfyr.
Fe ddywed y Swyddfa Dywydd y bydd glaw trwm dros ran helaeth o'r gorllewin dros siroedd Ceredigion, Sir Gâr, Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd a Phowys.
Maen nhw hefyd yn rhybuddio y bydd posibilrwydd o lifogydd ar ffyrdd ac eiddo, gan fod y sefyllfa mewn sawl ardal yn fregus yn dilyn llifogydd sydd wedi digwydd yn barod.
Bydd y glaw yn lledu o'r de orllewin yn gynnar ddydd Mawrth ac yn parhau dros orllewin Cymru ymhell i'r prynhawn.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn rhybuddio am y posibilrwydd o lifogydd. Mae dau rybudd coch mewn grym (Dyffryn Ddyfrdwy Isaf a Dinbych-y-Pysgod) ac 19 o rybuddion melyn i baratoi am lifogydd.
Ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru am y manylion llawn.