Rygbi: Blwyddyn i'w chofio
- Cyhoeddwyd

Erbyn hyn mae Siôn Corn wedi hen orffen ei waith a'n dechrau troi'i olygon at y flwyddyn nesa, ond roedd 'na anrheg gynnar i ddilynwyr y bêl hirgron ar draws y byd - llond hosan o rygbi yn ystod Cwpan y Byd.
Cwpan y Byd 2015 oedd y gorau ers sefydlu'r gystadleuaeth nôl yn 1987.
Roedd y bwlch rhwng y prif wledydd a'r gwledydd "llai" wedi cau tu hwnt i'r disgwyliadau - doedd na ddim sgoriau dros 100 pwynt fel roedd nifer wedi'i ragweld ac fel sydd wedi digwydd yn y gorffennol, ac roedd 'na ambell ganlyniad annisgwyl a chofiadwy.
Roeddwn i'n ddigon ffodus i fod yn Kingsholm i weld Georgia'n trechu Tonga mewn awyrgylch gwych, ond heb os un o'r uchafbwyntiau oedd Japan yn curo De Affrica 34-32 yn yr eiliad ola' yn Brighton. O bosib y sioc fwya' yn hanes rygbi - a mwy am y gêm hon mewn eiliad.
'Meicrocosm o deimlad cenedl'
Fe chwaraeodd Cymru'u rhan hefyd ac roedd eu tair gêm yn Twickenham yn gwbl gofiadwy am resymau gwahanol.
Ar ôl cael eu llethu gan anafiadau cyn ac yn ystod y gystadleuaeth fe wnaeth Cymru'n dda i ddod mas o grŵp anodd iawn gan ddangos eu bod nhw'n gallu cystadlu gyda'r goreuon, er unwaith eto roedden nhw'n boenus o brin o'u curo.
Roedd y modd y gwnaeth timau sylwebu Radio Cymru a Radio Wales ddathlu'r fuddugoliaeth hwyr dros Loegr yn ficrocosm o deimlad cenedl - roedd pawb yn dawnsio i gais Gareth Davies!
Fe ddylai Cymru fod wedi manteisio ar ddau ddyn ychwanegol yn erbyn Awstralia ond yn y pen draw roedd methu sgori cais yn erbyn 13 a cholli o 15 i 6 yn mynd i gostio'n ddrud a'r ffordd i'r ffeinal dipyn annos.
Dim ond un cam ar hyd y ffordd honno lwyddodd Cymru i'w gymryd. Cael a chael oedd hi, ond cais hwyr Fourie Du Preez oedd y gwahaniaeth yn y diwedd a Chymru unwaith eto'n gollwyr gogoneddus yn Rownd yr wyth olaf.
Ac roedd y rownd honno drwyddi draw yn gyfrifol am gynhyrchu rygbi gwefreiddiol a dadleuol gyda buddugoliaeth Seland Newydd dros Ffrainc, Ariannin yn erbyn Iwerddon ac Awstralia yn erbyn Yr Alban yn gosod safon gyffredinol na welwyd yn y gystadleuaeth o'r blaen.
Yn deilwng, y ddau dîm gorau ddaeth i'r ffeinal a rhaid canmol y Wallabies am frwydro nôl fel y gwnaethon nhw cyn i'r Crysau Duon yn hollol haeddiannol, ac am yr eildro'n olynol, godi Cwpan y Byd a hwythau'n dal ben a 'sgwyddau uwchben y gweddill.
Edrych ymlaen
Ar ôl Cwpan y Byd mae'r edrych mlaen at Bencampwriaeth y Chwe Gwlad hyd yn oed yn fwy, yn enwedig o gofio bod Cymru a Lloegr yn yr un grŵp.
Credwch fi bydd hi dipyn annos yn Twickenham fis Mawrth gyda'r Saeson yn edrych i ddial, a hynny gyda hyfforddwr newydd wrth y llyw. Fe wnaeth Eddie Jones wyrthiau fel hyfforddwr Japan - yn ogystal â churo'r Springboks, nhw oedd y tîm cyntaf erioed i ennill tair gêm a methu mynd mas o'r grŵp.
Efallai bod gwers i Gymru shwd ma' chwarae a bod angen elfen ychwanegol yn ogystal â chryfder, dygnwch ac ymroddiad os am gymryd y cam nesa a churo'r goreuon.
Bydd Iwerddon oddi cartre' ddim yn hawdd 'chwaith ac mae'r Alban yn dal i wella dan Vern Cotter.
Ond mae gan Gymru'r fantais o chwarae tair gêm adre, mae'r tîm hyfforddi wedi'i sefydlu ac mae gan Warren Gatland record reit dda yn y bencampwriaeth. Yn ei wyth mlynedd wrth y llyw mae Cymru wedi ennill deirgwaith, gan gynnwys dwy Gamp Lawn.
Fe orffennodd y bencampwriaeth y llynedd ar nodyn uchel gyda rygbi anhygoel ym mhob un o'r tair gem ar y Sadwrn olaf - Cymru'n arwain y ffordd yn erbyn yr Eidal a gosod y nod, cyn bo Lloegr ac Iwerddon yn eu goddiweddyd yn y diwedd.
O raid y daeth yr agwedd a'r rygbi positif y llynedd - gobeithio y daw e o ddewis eleni.