Dyn 21 oed ar goll o Abertawe
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i ddiflaniad dyn 21 oed o Abertawe.
Adroddwyd fod Jordan Miers ar goll brynhawn Sul ar ôl iddo fethu â dychwelyd adref ar ôl noson allan gyda chydweithwyr yng nghanol y ddinas nos Sadwrn.
Credir iddo fod ym maes parcio siop Toys'R'Us ym Mharc Tawe, ac mae'n bosibl ei fod wedi bwriadu cerdded adref i Bonymaen, a fyddai wedi mynd ag ef ar hyd ochrau Afon Tawe, heibio i'r Ship Inn i gyfeiriad Stadiwm Liberty.
Mae Mr Miers yn cael ei ddisgrifio yn ddyn 6'2" o daldra, o gorff main gyda gwallt brown cwta. Cafodd ei weld ddiwethaf yn gwisgo jîns glas golau, crys glas o dan siwmper goch tywyll ac esgidiau lledr brown.
Cafodd ei weld am y tro diwethaf ychydig ar ôl 22:00 nos Sadwrn ym Mharc Tawe.
Dywedodd y Prif Arolygydd Chris Truscott: "Mae'r chwilio wedi parhau drwy gydol y dydd heddiw ar hyd y llwybrau y byddai Jordan wedi gallu eu cymryd i gyrraedd adref.
"Hoffwn ddiolch i'r cyhoedd am eu cefnogaeth hyd yn hyn a byddwn yn gofyn i unrhyw un sydd â chamerâu teledu cylch cyfyng yn yr ardaloedd perthnasol i edrych allan am unrhyw berson sy'n cyfateb i ddisgrifiad Jordan ôl 22:00 nos Sadwrn a chysylltu â'r heddlu."
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 1500468414.