Carchar am ddyrnu ei bartner beichiog

  • Cyhoeddwyd
Lewis LavilleFfynhonnell y llun, Athena
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Laville wedi cyfaddef gyrru'n beryglus a gyrru gyda gormod o alcohol yn ei waed

Mae dyn wedi'i barlysu, oedd wedi cael dedfryd ohiriedig am yrru ar gyflymder o dros 80mya tra ei fod yn yfed a gyrru, wedi ei garcharu am ddyrnu ei bartner oedd yn disgwyl babi.

Clywodd Llys y Goron Abertawe ym mis Awst fod Lewis Laville, 21 oed o Benfro, yn gwthio ei law dde ar ei goes dde i gyflymu'r cerbyd ac yn gwthio ei law chwith ar ei goes chwith i ddefnyddio'r brêc.

Bryd hynny fe blediodd yn euog i yrru'n beryglus, gyrru gyda gormod o alcohol yn ei waed, a gyrru heb yswiriant a thrwydded, a dywedodd y barnwr fod yr hyn wnaeth y diffynnydd yn "anhygoel".

Roedd Laville wedi cael dedfryd o 12 mis o garchar wedi ei gohirio am ddwy flynedd a'i wahardd rhag gyrru am ddwy flynedd.

Ddydd Mawrth roedd yn ôl o flaen yr un barnwr wedi ei gyhuddo o ddyrnu ei bartner Jessica Clarke, 21 oed, dair gwaith tra oedd hi yn gyrru car.

Fe glywodd y llys hefyd fod Laville wedi ymosod ar gyn-gariadon yn y gorffennol.

Fe gafodd ei garcharu am chwe mis ac fe fydd yn rhaid iddo dalu £900 o ddirwy.