Lansio ymchwiliad i goleg preifat
- Cyhoeddwyd

Bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal i gampws Coleg Galwedigaethol Gorllewin Llundain yng Nghaerdydd yn sgil pryderon gafodd eu codi yn rhaglen Week In Week Out.
Yr Asiantiaeth Sicrhau Ansawdd sy'n arwain yr ymchwiliad fydd hefyd yn edrych ar gampws y coleg yn Wembley, Llundain.
Fe gafodd newyddiadurwr, oedd yn esgus ei fod yn fyfyriwr, gynnig benthyciad i astudio yn y coleg, gan ddefnyddio cymwysterau ffug.
'Ymchwiliad trylwyr'
Yn y cyfamser, mae Uned Trosedd Economaidd Heddlu'r De'n ymchwilio i bryderon.
Dywedodd llefarydd ar ran yr asiantaeth y byddai "ymchwiliad trylwyr i ansawdd a safonau academaidd".
Mae'r corff wedi addo cyhoeddi adroddiad cyflawn pan ddaw'r ymchwiliad i ben ddiwedd y gwanwyn.
Bydd adroddiad yn cael ei baratoi ar gyfer cyfarfod nesaf pwyllgor Cymreig yr asiantaeth ond ni fydd gan y pwyllgor rôl uniongyrchol yn yr ymchwiliad.
Fe gadarnhaodd llefarydd fod yr asiantaeth wedi hysbysu Llywodraeth Cymru fis Medi fod gan y coleg gampws newydd yn agor yng Nghaerdydd.
Dywedodd mai er gwybodaeth y gwnaethon nhw hynny gan nad yw'r asiantaeth wedi ei chomisiynu gan y llywodraeth i adolygu cyrsiau i bwrpas ariannu cyhoeddus.