Michael Sheen yn galw am help i bobl ifanc ddigartref
- Cyhoeddwyd

Mae Michael Sheen wedi lansio deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i helpu pobl ifanc ddigartref yng Nghymru.
Mae'r actor, oedd yn byw ym Mhort Talbot, eisiau rhoi stop ar osod pobl ifanc yn eu harddegau mewn llety gwely a brecwast sy'n "anaddas" iddyn nhw.
Yn lle hynny, meddai, fe ddylen nhw gael cefnogaeth "rhwydwaith gwych o elusennau" ar draws Cymru, all ddaparu lle diogel iddyn nhw.
Dywedodd Llywodraeth Cymru nad yw dros hanner cynghorau'r wlad yn defnyddio llety gwely a brecwast.
Mae dros 19,000 o gefnogwyr wedi llofnodi'r ddeiseb.
'Peryglu diogelwch'
Mae partneriaeth 'End Youth Homelessness Cymru' yn honni fod dros 100 o bobl ifanc 16 ac 17 oed yng Nghymru wedi aros mewn llety gwely a brecwast yn 2013-14.
Mae'n ychwanegu bod gosod pobl ifanc mewn llety o'r fath yn peryglu eu diogelwch.
Dywedodd Mr Sheen: "Mae bod yn berson ifanc yn eich arddegau yn gyfnod anodd a dryslys, ac mae bod yn ddigartref yn eich gwneud hyd yn oed yn fwy agored i niwed."
Mae'r ddeiseb yn mynd ymlaen i nodi: "Dylem wneud popeth o fewn ein gallu er mwyn darparu lloches ddiogel iddyn nhw a pheidio â'u rhoi mewn amgylchiadau allai arwain at risg pellach."
Dysgu gan gynghorau eraill
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Dangosodd gwaith ymchwil gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ym mis Tachwedd nad yw dros hanner cynghorau Cymru'n defnyddio llety gwely a brecwast ar gyfer pobl ifanc 16 ac 17 oed sy'n ddigartref.
"Rydym yn gweithio ar ganllawiau statudol cryfach i geisio atal y defnydd o lety gwely a brecwast o fewn gweddill yr awdurdodau, ac yn eu hannog i ddysgu gan gynghorau sydd eisoes yn dod o hyd i lety diogel ar gyfer pobl ifanc ddigartref."