Cytundeb Paris: 'Cyfnod anodd' i ffermwyr Cymru

  • Cyhoeddwyd
ffermioFfynhonnell y llun, PA

Bydd y diwydiant amaeth yng Nghymru yn wynebu "cyfnod anodd" wedi cytundeb Paris ar newid hinsawdd, yn ôl arbenigwr blaenllaw.

Mae'r nod o leihau allyriadau carbon yn mynd i effeithio'n fawr ar ffermio am y 10-20 mlynedd nesa, meddai Penri James o sefydliad IBERS Prifysgol Aberystwyth.

Wrth siarad gyda rhaglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru, rhybuddiodd fod y "byd yn newid" ac na allai ffermwyr barhau fel yng nghyfnod "ein tadau a'n teidiau".

Nid tasg hawdd fydd mynd i'r afael â'r heriau, ychwanegodd.

"Bydd hi'n anodd ... yn y diwedd fe welwn ni sector yng Nghymru ac yn ehangach sy'n wahanol iawn i beth yw ar hyn o bryd," meddai.

Mwy heriol

Disgrifiad,

Dywedodd Alun Davies bod angen i amaethwyr newid eu dulliau i fod yn fwy cynaliadwy

Mae'r dyfodol yn debygol o fod yn fwy heriol i'r diwydiant gyda threth garbon bosib ar ddisel coch a pholisi amaeth newydd yn Ewrop ar ôl 2019.

Fe ddaw cytundeb Paris i rym yn 2020 ond mae Mr James wedi dweud y bydd traean o'r gwario ar y Polisi Amaeth Cyffredin yn mynd o gymorthdaliadau - i helpu gwledydd addasu i'r cytundeb.

Bydd cronfa $100 biliwn fyd eang yn cael ei sefydlu bob blwyddyn ar ôl 2020 gyda'r Undeb Ewropeaidd yn cyfrannu ati.

Ond yn ôl un cyn weinidog amaeth Llywodraeth Cymru, mae ffermwyr mewn sefyllfa dda i ddelio gyda'r newidiadau.

Dywedodd Alun Davies bod angen i'r diwydiant fuddsoddi er mwyn mynd i'r afael â'r heriau ac y byddai newidiadau yn digwydd yn raddol.