'Dolig yn Nepal i ddyn o Lansannan
- Cyhoeddwyd

Tra bydd y rhan fwya' o drigolion Llansannan, Conwy, yn gwledda amser cinio 25 Rhagfyr, mi fydd un o bobl y pentre'n yn cychwyn ar antur fawr.
Mi fydd Gwynfor Griffiths, 59 oed, yn teithio i Nepal i wneud mis o waith gwirfoddol.
Fe gafodd y wlad fynyddig ei tharo gan ddaeargryn enfawr ym mis Ebrill.
Ac ar ddydd 'Dolig, mi fydd Mr Griffiths yn gadael ei deulu a'r twrci er mwyn helpu â'r gwaith o ailadeiladu ysgolion yn Nepal.
'Gadael hoel'
Cafodd dros 3,000 o bobl eu lladd a miloedd eu hanafu yn y daeargryn ar 25 Ebrill, a darodd 7.8 ar y raddfa Richter.
Yn dilyn hynny, bu 120 ôl-gryniad, gan gynnwys un oedd yn 7.3 ar y raddfa.
Gyda'r fath ddinistr yn y wlad, mae Mr Griffths yn benderfynol o wneud gwahaniaeth.
"Dwi'n gobeithio gadael hoel," meddai. "Dwi ddim yn mynd yno i sefyllian - dwi'n mynd yno i weithio."
Adeiladu a thrwsio ysgolion fydd gwaith Mr Griffiths yn Nepal.
Fel peiriannydd sifil, mae ganddo brofiad o waith caled - ond mae'n dweud y bydd yn rhaid iddo ddysgu sgiliau adeiladu tra yno.
"Dwi wastad wedi bod yn potsio - gwneud rhywfaint bach o fricio a rhyw blastro a phethe' felly - ond dydw i ddim yn arbenigwr," meddai.
"Bydd rhaid i fi orfod dysgu wrth fynd."
Mi fydd Mr Griffiths yn hedfan i brifddinas Nepal, Kathmandu, cyn mynd ymlaen i ddinas Pokhara, lle bydd yn aros gyda theulu.
O yno, bydd yn teithio i bentre' Pane, lle bydd yn gwneud y rhan fwya' o'i waith gwirfoddol.
Mae Mr Griffiths yn dweud ei fod "wastad wedi bod eisiau" gwirfoddoli dramor.
Ond â hithau'n gyfnod dathlu'r 'Dolig a'r Flwyddyn Newydd, beth mae'i deulu'n feddwl am ei antur?
"Mae nhw'n dotio fy mod i'n mynd," meddai Mr Griffiths. "'Cer amdani', meddan nhw wrtha' i."
Ac er ei fod yn dweud y bydd yn methu ei wyresau - Branwen, sy'n bedair oed, a Mirain, sy'n bedwar mis oed - mae'n gobeithio y caiff gyfle i weithio efo plant draw yn Nepal.
"Dwi wrth fy modd efo plant, ac mi fydd 'na blant o gwmpas," meddai.
"Gobeithio gawn ni ddysgu efo'n gilydd."
Felly tra bydd Cymru'n dathlu hen ŵyl, bydd Mr Griffiths yn cael profiad newydd a chynhyrfus.
Mae'n gobeithio y caiff ei fis yn Nepal effaith hir-dymor ar y cymunedau lle bydd o'n gwirfoddoli.
"Dwi'n gobeithio gadael hoel," meddai eto. "Gwneud dipyn o adeiladu a chael hoel i'w ddangos."