Ar goll: Deifwyr yn chwilio afon Tawe

  • Cyhoeddwyd
Jordan MiersFfynhonnell y llun, Heddlu'r de

Cafodd deifwyr eu galw i chwilio afon yn Abertawe ddydd Mercher, wrth i'r ymchwiliad i ddiflaniad dyn 21 oed o'r ardal barhau.

Cafodd yr heddlu wybod fod Jordan Miers ar goll brynhawn dydd Sul, wedi iddo fethu â dychwelyd adre ar ôl noson allan yn y ddinas.

Mae'r heddlu, criwiau tân a gwylwyr y glannau eisoes wedi chwilio rhan o afon Tawe.

Dydd Mercher, dywedodd yr heddlu eu bod yn anfon "adnoddau arbenigol pellach" er mwyn chwilio'r afon.

Disgrifiad,

Adroddiad Ellis Roberts

Dangosodd lluniau camera cylch cyfyng fod Mr Miers wedi bod ym mharc manwerthu Parc Tawe ac mae'r heddlu'n credu ei fod wedi bwriadu cerdded adref i Fonymaen.

Dywedodd y Prif Arolygydd Chris Truscott fod criwiau wedi bod yn chwilio ardaloedd y gallai fod wedi eu defnyddio:"Mae hofrennydd yr heddlu, criwiau arbenigol ac adnoddau arbenigol pellach wedi eu defnyddio heddi (dydd Mercher) i chwilio'r afon",

Apeliodd ar i unrhyw un a welodd Mr Miers ar ôl 22:00 ddydd Sadwrn i gysylltu â'r heddlu.