Teithio 'Dolig: "Angen gofal"
- Cyhoeddwyd

Mae cymdeithas foduro'r RAC yn cynghori pobl i gymryd pwyll ar y ffyrdd ddydd Iau, wrth i gannoedd o filoedd o bobl baratoi i deithio er mwyn treulio'r Nadolig gyda theulu neu ffrindiau.
Mae'r RAC yn amcangyfrif y bydd yna bedair miliwn o deithiau yn ystod y dydd, a bod angen cymryd gofal, yn enwedig os bydd y tywydd yn wlyb.
"Ar y foment, dyw'r tywydd ddim yn rhy dda", meddai Ed Evans o'r RAC, "felly gwneuwch yn siwr bod y car yn iawn - digon o olew i mewn, digon o screen wash i mewn.
"Ewch a diod twym gyda chi rhag ofn y byddwch chi'n cael eich dal lan ar y draffordd yn rhywle, a rhowch ddigon o amser - os yw'r siwrne fel rheol yn hala dwy awr, meddyliwch y bydd yn dair awr yn lle."
Bydd trenau Arriva Cymru'n rhedeg yn ol eu harfer am ran helaeth o'r dydd, ond bydd gwasanaethau'n dod i ben yn gynt.
Mae disgwyl i waith cynnal a chadw yn amharu ar wasanaethau tren i ryw raddau ar ôl y Nadolig.
Fydd trenau Virgin ddim yn rhedeg yn y Gogledd am rai dyddiau, a bydd llai o drenau rhwng Caerdydd a Chasnewydd am yr un rheswm.
Mae Maes Awyr Caerdydd yn rhagweld y byddan nhw'n fwy prysur eleni na'r llynedd.
Ymysg y cyrchfanau mwyaf poblogaidd i hedfan iddyn nhw'r Nadolig hwn mae Amsterdam, Dulyn, Caeredin, Alicante a Tenerife.