Scarlets 26-27 Gweilch
- Cyhoeddwyd

Scarlets 26-27 Gweilch
Gyda phob tocyn wedi'i werthu ym Mharc y Scarlets, fe gafodd y dorf wledd o rygbi mewn gêm agos.
Gyda'r chwarae'n mynd o un pen y cae i'r llall yn yr hanner cyntaf, y tîm cartref gafodd y cais cyntaf wrth i John Barclay groesi. Daeth y trosiad gan Aled Thomas ac roedd y ddau giciwr yn brysur wrth i Dan Biggar a Thomas gyfnewid ciciau cosb cyn i Hanno Dirksen Groesi i'r Gweilch.
Cyn yr egwyl daeth dau gais arall - un bob un - gydag Alun Wyn Jones (Gweilch) ac Aled Davies (Scarlets) groesi'r llinell, ac wrth i Thomas a Biggar lwyddo gyda'u ciciau roedd hi'n 20-20 ar yr egwyl.
Er bod y gêm yr un mor gystadleuol yn yr ail hanner, dim ond un cais arall ddaeth gyda'r eilydd Eli Walker yn rhoi'r fantais i'r Gweilch.
Er i Thomas lwyddo gyda dwy gic arall, doedd hynny ddim yn ddigon i gipio'r pwyntiau llawn i'r Scarlets.