Abertawe 1-0 West Bromwich Albion

  • Cyhoeddwyd
kiFfynhonnell y llun, Getty Images

Abertawe 1-0 West Bromwich Albion

Roedd dirfawr angen triphwnt ar yr Elyrch, sy'n dal i chwilio am reolwr newydd ar ôl diswyddo Garry Monk yn ddiweddar, ac roedd yna hen ddathlu ar y Liberty nos Sadwrn.

Roedd angen help Cymro i gael y pwyntiau.

Daeth unig gôl y gêm wedi dim ond naw munud. O bas Wayne Routledge fe darodd ergyd Angel Rangel y postyn cyn adlamu oddi ar gefn pen Boaz Myhill - y Cymro yn y gôl i'r ymwelwyr - ac roedd Ki Sung-Yueng wrth law i roi'r bêl yn y rhwyd.

Er i Abertawe gael mwyafrif y meddiant am weddill y gêm, roedd y perfformiad yn un nerfus gyda'r ddau dîm yn methu manteisio ar yr ychydig gyfleoedd ddaeth i'w rhan.

Mae West Brom, o dan reolaeth Cymro arall Tony Pulis, bellach mewn trafferthion ar ben isa tabl yr Uwchgynghrair hefyd.

Yr ymwelwyr oedd y tîm gorau yn yr ail hanner, ond mae'r pwyntiau wedi codi Abertawe allan o'r tri isaf yn y tabl gan i Norwich golli ddydd Sadwrn.

Fe fydd hynny'n hwb i'r rheolwr dros dro Alan Curtis yng nghanol sibrydion mai ef fydd wrth y llyw am gryn amser tan i reolwr newydd gael ei benodi.