Wrecsam 0-1 Southport
- Published
Wrecsam 0-1 Southport
Roedd gêm ddydd Sadwrn yn debyg o fod yn un anodd i Wrecsam gan bod yr ymwelwyr ar rediad da o ganlyniadau yn y Gynghrair Genedlaethol.
Felly y profodd hi wrth i Wrecsam golli gartref.
Roedd un gôl yn ddigon, ac fe ddaeth honno yn yr hanner cyntaf.
Fe dorrodd Adam Blakeman i mewn o'r asgell cyn taro ergyd rymus gyda'i droed chwith i gornel y rhwyd.
Mae Wrecsam bellach yn wythfed yn y tabl.