Gwrthbleidiau'n feirniadol wedi llifogydd yn y gogledd

Cafodd ceir eu dal ar yr A55 ger Llandygai Image copyright Llinos Davies
Image caption Cafodd ceir eu dal ar yr A55 ger Llandygai

Mae nifer o wleidyddion y gwrthbleidiau yng Nghymru wedi bod yn feirniadol o Lywodraeth Cymru wedi i lifogydd achosi anhrefn ar draws gogledd Cymru ddydd Sadwrn, ond dywed Llywodraeth Cymru fod rheoli risg llifogydd yn 'flaenoriaeth'.

Bu'r A55 ar gau i'r ddau gyfeiriad drwy'r dydd ar ôl cael ei chau yn oriau man y bore. Bu'n rhaid achub gyrwyr o rai cerbydau.

Doedd dim modd i'r heddlu ddargyfeirio traffig o'r A55 gan bod y ddwy ffordd arall posib - yr A5 a'r A470 trwy Ddyffyn Conwy - hefyd wedi cau oherwydd llifogydd.

Yng nghanol Bangor bu trafferthion mawr wrth i'r brif ffordd trwy'r ddinas fynd o dan ddŵr.

Image caption Roedd Ffordd Caernarfon ym Mangor fel afon brynhawn Sadwrn

Fe ddaeth y llifogydd i mewn i nifer o gartrefi ym mhentref Talybont gerllaw.

Fe fu'n rhaid symud pobl o'u cartrefi ym Miwmares ar Ynys Môn hefyd, gyda rhai'n treulio ychydig oriau yng nghanolfan hamdden y dref.

Bu'n rhaid i Wylwyr y Glannau gynorthwyo ym Miwmares, ond fe fu'n rhaid i nifer o drigolion symud o'u tai hefyd yn Llandwrog a Bontnewydd ger Caernarfon, gyda phobl naill ai'n mynd i' dafarn leol (Bontnewydd) neu neuadd y pentref (Llandwrog) er mwyn osgoi'r llifogydd.

Yn Llanrwst, daeth y llifogydd yn ôl i ganol y dref ac roedd pryder hefyd yn Llanelwy wrth i Afon Elwy orlifo mewn mannau.

Image caption Fe orlifodd Afon Elwy yn y glaw di-baid

Dywedodd Alun Ffred Jones AC o Blaid Cymru: "Dyma'r ail dro lle mae trigolion Talybont {ger Bangor} wedi diodde llifogydd difrifol a'r ail dro i'r A55 gau.

"Y tro diwethaf i hyn ddigwydd fe addawodd y gweinidog trafnidiaeth ar y pryd, Carl Sargeant, na fyddai hyn yn digwydd eto.

"Roedd Cyngor Gwynedd wedi cytuno ar gynllun i warchod y pentref a'r A55 ond fe wnaeth Llywodraeth Cymru wrthod ariannu'r cynllun. Fe fyddai hynny wedi costio £1.5 miliwn, sy'n bitw o gymharu â'r £38 miliwn sydd eisoes wedi'i wario ar yr M4 ger Casnewydd."

Mae AS Ceidwadol Gorllewin Clwyd a chyn-Ysgrifennydd Cymru David Jones hefyd wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am yr anhrefn ar yr A55. Mae trydar, fe ofynnodd "a yw Llywodraeth Cymru yn malio o gwbl am fodurwyr gogledd Cymru?".

'Blaenoriaeth'

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod y problemau a'r loes sydd wedi ei greu gan lifogydd mewn rhannau o ogledd a chanolbarth Cymru a dyna pam fod rheoli risg llifogydd ac arfordiroedd yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni.

"Rydym wedi ymrwymo bron i £300m dros oes y llywodraeth hwn yn cynnwys arian Ewropeaidd i reoli risg llifogydd ac fe fyddwn yn gwario £150m yn ychwanegol ar risg i'r arfordir o 2018.

"Mae hyn wedi cynnwys buddsoddiad sylweddol yng ngogledd Cymru yn cynnwys cynlluniau rheoli risg llifogydd yn Y Rhyl, Bae Colwyn, Corwen a Biwmares.

"Yn dilyn yr achosion diweddaraf yma o lifogydd byddwn yn cydweithio gyda'r awdurdodau lleol i weld pa gamau pellach mae modd eu cymryd i gwblhau'r gwaith o ddiogelu cartrefi a gyrrwyr yn gynt, tra'n ceisio lleihau'r effaith y bydd hyn yn ei gael ar y rhai sy'n defnyddio'r ffyrdd.

"Un flaenoriaeth o'n strategaeth rheoli llifogydd ydi amddiffyn cartrefi ac eiddo o ddifrod llifogydd ac rydym yn falch hyd yn hyn gyda'r ffordd y mae'r amddiffynfeydd yn gweithio."

Image caption Canol tref Llanrwst