Enwi dyn fu farw mewn gwrthdrawiad ar Ddydd San Steffan
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu wedi enwi dyn fu farw wedi iddo fod mewn gwrthdrawiad gyda fan wen Ford Transit yn Abertawe am ychydig wedi 03:00 ar ddydd Sadwrn 26 Rhagfyr.
Roedd Geraint Rowland yn dod o ardal Treforys y ddinas, ac yn 26 oed. Roedd wedi dod yn dad am y tro cyntaf fis yn ôl.
Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd ei gymar Cara Gregory fod Mr Rowland yn ddyn oedd yn llawn hwyl ac yn enyn parch gan eraill. Dywedodd nad oedd yn credu fod y fath beth wedi digwydd ac fe fydd ei farwolaeth yn gadael bwlch enfawr yn ei bywyd ac ym mywyd eu mab ifanc.
Roedd Mr Rowland yn gweithio mewn canolfan alwadau yn Abertawe. Mae Heddlu De Cymru wedi gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth am y gwrthdrawiad i gysylltu gyda nhw.