Lladrad o eglwys yng Nghaerffili Ddydd Nadolig

  • Cyhoeddwyd
EglwysFfynhonnell y llun, Mike Todd

Mae lladron wedi dwyn nifer o gyfrifiaduron yn ystod lladrad o eglwys ar ddydd Nadolig yng Nghaerffili. Ceisiodd y lladron ddwyn sêff o'r eglwys hefyd, cyn ei adael ar ôl yn y maes parcio.

Cafodd yr heddlu eu galw gan aelod o'r cyhoedd ar ôl dod o hyd i'r sêff tu allan i Eglwys St Martin's am 01:00 ar ddydd Gŵyl San Steffan.

Dywedodd y Parchedig Mark Greenaway-Robbins fod y digwyddiad wedi creu "gofid" ond roedd aelodau'r eglwys wedi cynnig eu cefnogaeth.

Ychwanegodd mai ychydig iawn o ddifrod oedd wedi ei achosi, ac roedd yn falch nad oedd y sêff wedi ei ddwyn gan ei fod yn cynnwys cofnodion hanesyddol gwerthfawr yr eglwys.

"Yn naturiol mae'n creu gofid. Ond mae'r heddlu wedi bod yn wych ac mae'r aelodau wedi cynnig cymorth felly mae hynny wedi bod yn braf yn ystod yr holl beth", meddai.

Disgrifiodd Mike Todd, sy'n aelod o'r eglwys, ac oedd wedi cynnig cymorth i ddiogelu'r adeilad eto, fod y digwyddiad yn un "gwarthus".

"Does neb wedi eu hanafu a dim ond colled fechan sydd wedi bod ond mae'n weithred gas i dorri i mewn i eglwys ar ddydd Nadolig", meddai.

Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio.

Ffynhonnell y llun, Mike Todd
Ffynhonnell y llun, Mike Todd