Rhybudd am ragor o law trwm dros y dyddiau nesa'
- Published
Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio bod rhagor o law trwm a gwyntoedd cryfion ar y ffordd dros y dyddiau nesa'.
Er bod disgwyl i ddydd Mawrth fod yn sych, mae'n debygol y bydd tywydd garw ddydd Mercher, yn enwedig yn y de orllewin, ac fe allai hynny arwain at lifogydd.
Mae nifer o rybuddion llifogydd mewn grym.
Ar Ynys Môn, mae'r A545 rhwng Porthaethwy a Biwmares ar gau oherwydd tirlithriad a choed sydd wedi disgyn.
Yn ôl Cyngor Môn, bydd y ffordd ar gau "hyd nes y clywir yn wahanol." Mae'r cyngor yn dweud fod peirianwyr ar y safle yn asesu diogelwch y ffordd.
Mewn rhannau o Wynedd a Môn, mae pobl eisoes wedi gorfod symud o'u tai oherwydd llifogydd.
Roedd rhannau o brif ffyrdd y gogledd - gan gynnwys yr A55 a'r A5 - ynghau dros y penwythnos am gyfnod oherwydd yr holl ddŵr.
Fe wnaeth y llifogydd difrifol greu difrod sylweddol i ardd hanesyddol hefyd.
Rhybudd i yrwyr
Mae'r gwrthbleidiau wedi beirniadu Llywodraeth Cymru, ond mae hi'n dweud bod rheoli risg llifogydd yn flaenoriaeth.
Dywedodd Curig Jones o Gyfoeth Naturiol Cymru: "Rydyn ni'n disgwyl y tywydd gwaetha' ddydd Mercher, yn enwedig yn y de.
"Dylai pobl gadw golwg ar ein gwefan ni a gwylio a gwrando ar y newyddion er mwyn gwybod beth yw'r sefyllfa ddiweddara'.
"Mae lot yn trafaelio ar y ffyrdd - ni ddylen nhw yrru ar ffordd os oes llifogydd."