Ymchwilwyr yn Abertawe yn 'torri tir newydd'
- Cyhoeddwyd
Ymhen ychydig o flynyddoedd fe allai cleifion sydd angen ailadeiladu trwyn neu glust gael triniaeth am fod meinwe wedi ei datblygu mewn labordy.
Dywedodd ymchwilwyr yn Abertawe fod y broses yn golygu tyfu celloedd mewn deorydd cyn eu cymysgu â hylif arbennig.
Eu gobaith nhw yw bod y cynta yn y byd i ddefnyddio'r driniaeth ar bobl o fewn tair blynedd.
"Yn syml, rydyn ni'n ceisio datblygu meinwe newydd wrth ddefnyddio celloedd dynol," meddai'r Athro Iain Whitaker, ymgynghorydd yng Nghanolfan Llosgiadau a Llawdriniaeth Blastig Cymru yn Ysbyty Treforys yn Abertawe.
'Cyhyrau'
"Y nod yn y pen draw fydd gosod y feinwe mewn bod dynol ac ailadeiladu nid yn unig trwynau neu glustiau ond hefyd esgyrn a chyhyrau."
Dechreuodd y prosiect, meddai, yn 2012 ond mae ymchwil wedi bod yn y maes ers mwy nag 20 mlynedd.
Dywedodd y byddai rhaid cynnal profion ar anifeiliaid yn gynta ac wedyn ddilyn trefn foeseg.
"Os yw'r ymchwil yn llwyddiannus, fe fyddwn yn gallu ailadeiladu rhan o'r corff heb fyng ag e o ran arall ac felly osgoi achosi craith neu unrhyw ddiffyg," ychwanegodd yr Athro Whitaker.
Roedd yr holl broses, meddai, yn cynnwys tynnu celloedd o sampl fach o gartilag a'u datblygu mewn deorydd, sganio siâp rhan ar goll y corff a bwydo'r wybodaeth i mewn i gyfrifiadur, ailosod y deunydd mewn deorydd a chyflenwi maetholion fel bod y celloedd yn cynhyrchu eu cartilag eu hunain.