Ymgyrch i achub ciosg ffôn ger Tregaron
- Cyhoeddwyd

Mae ymgyrch ar y gweill i geisio achub ciosg ffôn ar ben mynydd yng Ngheredigion.
Weithiau mae cerddwyr yn defnyddio'r ciosg rhwng Tregaron a Llanwrtyd er mwyn cysgodi rhag y gwynt a'r glaw.
Mae BT yn ystyried cael gwared ar y ciosg am nad yw wedi gweithio ers mwy na 18 mis.
Ond mae cerddwyr mynyddoedd Cambria yn ceisio ei gadw ac wedi dweud bod y ciosg yn "rhan bwysig o'r dirwedd".
Dywedodd BT y byddai 90 diwrnod o rybudd fel bod modd i unrhywun fynegi gwrthwynebiad.
Mae Hosteli Unigeddau'r Elennydd, sy'n darparu llety ar gyfer cannoedd o gerddwyr, wedi galw am achub y ciosg.
'Lloches'
Dywedodd y cadeirydd Marilyn Barrack: "O safbwynt diogelwch, mae'r ciosg yn ddefnyddiol os yw'r amodau'n anodd.
"Mae'r ciosg yn lloches os yw'r tywydd yn wael.
"Hefyd mae signalau ffonau symudol yn brin iawn yn yr ardal ... does dim ciosg arall am tua saith milltir, ac nid oes llawer o dai yn yr ardal," meddai.
Yn 2002 roedd 92,000 ffonau talu gan BT ar draws y DU. Erbyn hyn, dim ond 57,500 sy'n bodoli, a dim ond 9,400 o'r rheini sy'n rhai coch traddodiadol.
Dywedodd llefarydd ar ran BT fod y ciosg wedi cael ei fandaleiddio ers blynyddoedd a'i fod, mae'n debyg, yn "denu ymddygiad troseddol a gwrthgymdeithasol".
"Rydym wedi dechrau ymgynghoriad â Chyngor Ceredigion a byddai'r gymuned yn cael cyfle i gyfrannu at hyn," meddai.