Damwain: Bachgen yn yr ysbyty ag anafiadau difrifol
- Cyhoeddwyd

Roedd y ddamwain am 15:30 ddydd Llun
Mae bachgen 14 oed yn yr ysbyty oherwydd anafiadau difrifol i'w ben.
Fe darodd bws y bachgen oedd ar feic am 15:30 ddydd Llun tu allan i Kwik Fit yn Heol Casnewydd, Caerdydd.
Dylai unrhyw dystion ffonio'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555 111, gan ddyfynnu 1500 477 117.