Arestio dyn wedi gwrthdrawiad difrifol
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 20 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus yn sgil gwrthdrawiad yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Dywedodd Heddlu De Cymru fod y dyn yn cael ei holi yng Ngorsaf Heddlu Abertawe.
Fe wnaeth car Ford KA arian wrthdaro â choeden ar y B4434 rhwng Tonnau a Resolfen tua 03:00 fore Mawrth.
Aed â pedwar o bobl o ardal Castell-nedd a Glyn-nedd i'r ysbyty.
Mae merch 15 oed yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd mewn cyflwr sefydlog ond difrifol.
Yn ogystal, mae dyn 21 oed yn Ysbyty Treforys gydag anafiadau.
Cafodd dyn 20 oed a merch 17 oed eu cludo i Ysbyty Treforys hefyd, ond maen nhw bellach wedi cael eu rhyddhau.