Priestland: Newid ei feddwl

  • Cyhoeddwyd
Rhys PriestlandFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Mae Rhys Priestland wedi ennill 40 o gapiau dros Gymru.

Mae maswr Caerfaddon Rhys Priestland wedi newid ei feddwl ynglŷn â'i benderfyniad na fyddai ar gael i chwarae i Gymru am 18 mis pe bai'n cael ei ddewis.

Dau fis yn ôl fe wnaeth hyfforddwr Caerfaddon, Mike Ford, gyhoeddi fod Priestland wedi dod i'r penderfyniad na fyddai ar gael.

Ond nawr mae Priestland wedi ail feddwl gan ddweud ei fod am herio Dan Biggar am y crys rhif 10.

Dywedodd Ford: "Mae o nawr wedi penderfynu pe bai o'n cael ei ddewis ei fod am chwarae i Gymru eto.

Yn wreiddiol roedd Caerfaddon yn gobeithio y byddai Priestland ar gael i chwarae i'r tîm cyntaf, pe bai eu maswr Geroge Ford, mab yr hyfforddwr, yn cael ei ddewis i chwarae i Loegr yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Fe ymunodd Priestland â'r clwb - sy'n chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr - wedi i daith Cymru yng Nghwpan y Byd ddod i ben yn erbyn De Affrica yn y rownd go-gyn-derfynol.

Mae wedi ennill 40 cap i Gymru, ac fe ymunodd â Chaerfaddon wedi 10 mlynedd yn chwarae i'r Scarlets.