Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd
- Cyhoeddwyd

Yn anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd mae'r actores Siân Phillips ymhlith y Cymry sydd wedi cael eu hanrhydeddu.
Mae'r Fonesig Sian Phillips yn cael cydnabyddiaeth am ei chyfraniad i actio ac i fyd y ddrama.
Mae anrhydeddau hefyd i'r cyn filwr Simon Weston a chyn organyddes sydd wedi rhoi'r gorau i chwarae'r offeryn ar ôl 75 o flynyddoedd o gyfraniad i eglwysi yn Nyffryn Conwy.
Cafodd Siân Phillips ei geni yng Ngwaun-cae-gurwen, Castell-nedd Port Talbot, ac roedd ei hymddangosiad cyntaf ar y teledu yn 17 oed yn 1953.
Ar ôl cyflwyno'r newyddion i'r BBC trodd ei llaw at actio, ar y llwyfan ac ar gyfer ffilmiau a dramâu teledu, gan gynnwys How Green was My Valley, y gyfres I Claudius, Goodbye Mr Chips, The Age of Innocence a Clash of the Titans.
Yn y theatr mae ei pherfformiadau cofiadwy'n cynnwys y dramâu The Calendar Girls, An Inspector Calls ac Ondine and People. Enillodd wobr Bafta yn 1977.
Mae wedi bod yn briod dair gwaith, gan gynnwys â'r actor Peter O'Toole.
Dywedodd: "Doedd o ddim yn rhywbeth yr oeddwn i wedi bod yn meddwl amdano, yn enwedig gan fy mod yn brysur iawn ac yn mynd o sioe i sioe," meddai.
"Mae'n anrhydedd fawr ac yn un doeddwn i wir ddim yn ei ddisgwyl."
Mae'r cyn filwr Simon Weston yn cael yr CBE am ei waith i elusennau dros 33 o flynyddoedd.
Cafodd Mr Weston, sydd o Gaerffili, losgiadau i 46% o'i gorff yn ystod Rhyfel y Falklands yn 1982.
Roedd yn yn y Gwarchodlu Cymreig ac ar fwrdd y Syr Galahad gafodd ei bomio gan awyren. Cafodd dros 70 o lawdriniaethau oherwydd ei anafiadau.
Ar ôl clywed am yr anrhydedd dywedodd: "Roeddwn i mor falch ac mae'n sypreis llwyr.
"Roedd fy mam mor hapus, dwi'n credu ei bod yn anodd iddi beidio dweud wrth unrhyw un cyn bod y rhestr yn cael ei chyhoeddi'n swyddogol."
Cafodd Georgina Jones, 92 oed o Ddolwyddelan, ei hanrhydeddu am ei chyfraniad i eglwysi yn Nyffryn Conwy. Mae hi'n derbyn y BEM.
Mae hi wedi rhoi'r gorau i chwarae'r organ ers mis Ebrill diwethaf ar ôl 75 mlynedd o wasanaeth.
"Mi oedd yn dipyn o sioc," meddai. "Dwi wedi bod yn yr eglwys ar hyd fy oes ac yn chwarae yn ystod tri neu bedwar gwasanaeth ar y Sul. Yr eglwys oedd fy mywyd i."
Mae Karin Morris, 78 oed o'r Eglwys Newydd, Caerdydd, yn derbyn yr BEM am ei gwaith i elusennau canser.
Mae hi wedi bod yn wirfoddolwr i Tenovus ers i'r elusen agor ei siop gyntaf yng Nghaerdydd 28 o flynyddoedd yn ôl.
Cafodd Helena Charles, 96 oed, o Flaengarw ger Pen-y-bont y BEM.
Dros gyfnod o 10 mlynedd mae hi'n un o'r rhai sy' wedi trefnu i blant o Chernobyl ddod i Flaengarw am bythefnos o wyliau bob blwyddyn.
Mae hi'n weithgar gyda chapeli lleol ac mae'r anrhydedd yn cydnabod ei gwaith yn y gymuned, yn cynnal dawnsfeydd wythnosol yn y pentref drwy gyfrwng y ddwy iaith.
£200,000
Ymhlith y Cymry sydd wedi derbyn yr MBE mae'r optometrydd David Hong, 61 oed o'r Tŷ Du, Casnewydd, sy' wedi rhoi profion llygaid i filoedd ym Malaŵi, Moldovia a Rwmania.
Fe gododd Robert Brain, 58 oed o Nelson, Sir Caerffili, dros £200,000 i elusennau mewn 20 mlynedd. Mae wedi rhedeg 16 marathon yn y DU, dau yn Efrog Newydd ac mae'n derbyn yr MBE.
Mae Lucille Ingman, 84 oed, yn cael MBE am ei gwaith yn y gymuned yn Nghoed-Llai, Sir Fflint, ers y 1960au, gan gynnwys gwaith gydag elusennau.
'Llwyddiannau'
Un arall sy'n cael MBE am ei gwaith yn y gymuned leol ac elusennau yw Maureen Davies, 69 oed o Gastell Newydd Emlyn.
Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Cymru: "Mae'r anrhydeddau hyn yn cydnabod llwyddiannau a gwasanaeth pobl anhygoel Cymru gartref ac ar draws y byd.
"O'n pobl gyhoeddus ragorol i'r rhai sy'n gwasanaethu eu cymunedau'n dawel, maen nhw'n cael eu dewis am eu hymroddiad a'u gwaith diflino yn helpu i wella bywydau pobl eraill."
Mae rhestr o'r rhai sydd wedi derbyn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd - gan gynnwys rhestr y Cymry - ar wefan Swyddfa'r Cabinet.