Pafin yn cwympo gan adael twll mawr
- Cyhoeddwyd

Cafodd stryd yn Nantyffyllon, ger Maesteg, ei chau a bu'n rhaid i bobl adael eu cartrefi ar ôl i dwll chwe metr (19.6 troedfedd) o ddyfnder ymddangos.
Dywed Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru iddynt gael eu galw i Coronation Terrace tua 07:50 ddydd Iau.
Yn ôl llefarydd cafodd dyn ei asesu wedi'r digwyddiad, ond mae'n ymddangos na chafodd ei anafu.
Mae'r gwasanaethau brys yn parhau wrth y safle.
Yn ôl un o'r trigolion, Lauren Morris, fe wnaeth diffoddwr gnocio ar ei drws tua 08:30: "Dywedodd fod y pafin wedi cwympo... o'n i methu â chredu'r peth."
Dywedodd Tom Weaver, cyn weithiwr dur: "Mae yna gymaint o ddŵr yn dod lawr o'r mynydd sy' tu cefn i ni. Yn fachgen ifanc fe wnes i weithio yn y pyllau, felly dyw cwymp o'r fath ddim yn rhoi braw i mi, ond mae'n sefyllfa beryglus."