Hyfforddwr Morgannwg yn gadael
- Cyhoeddwyd
Mae hyfforddwr clwb criced Morgannwg, Toby Radford, wedi gadael y swydd wedi dwy flynedd.
Roedd y cyhoeddiad ar wefan y clwb yn dweud y byddai Mr Radford, 44 oed, yn dychwelyd i weithio fel hyfforddwr batio arbenigol.
Yn ei dymor cyntaf yn 2014 fe wnaeth Morgannwg orffen yn wythfed yn ail adran Pencampwriaeth y Siroedd - roedden nhw'n bedwerydd yn ei ail dymor yn 2015, eu hail safle gorau mewn degawd.
Ond roedd eu perfformiadau yn y cystadlaethau undydd yn siomedig gan iddyn nhw fethu mynd heibio'r grwpiau yn y cystadlaethau 20 na 50 pelawd.
Dywedodd Radford: "Rwy'n falch iawn fod y tîm wedi gwella'n fawr dros y ddau dymor diwethaf ac wedi bod yn gystadleuol dros ben.
'Gwaith caled'
"Mae'n siomedig na alla i werthfawrogi'r twf yma o hyn ymlaen ond rwy'n hyderus bod doniau lleol fel David Lloyd, Aneurin Donald ac Andrew Salter - bob un bellach wedi sefydlu yn y tîm cyntaf - yn rhoi cyfle go iawn i'r tîm yn y dyfodol hir dymor.
"Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi fy nghefnogi."
Dywedodd prif weithredwr Morgannwg, Hugh Morris: "Mae gwaith caled Toby wedi bod yn amlwg i bawb ei weld.
"Mae'r gwaith hyfforddi Toby gyda'n batwyr ifanc wedi bod yn eithriadol o bwysig, ac rwy'n credu y bydd y chwaraewyr a'r clwb yn elwa ar hynny yn y blynyddoedd i ddod."
Nid yw'r clwb eto wedi dweud pwy fydd yn cymryd lle Toby Radford ar gyfer y tymor nesa'.