Dyn o Abertawe ar goll: Apêl o'r newydd

  • Cyhoeddwyd
Jordan MiersFfynhonnell y llun, Heddlu'r de

Mae Heddlu'r De wedi ailgyhoeddi apêl wrth barhau i chwilio am ddyn 21 oed o Abertawe.

Ni wnaeth Jordan Miers ddychwelyd adre ar ôl noson allan gyda chydweithwyr yn y ddinas nos Sul, 20 Rhagfyr.

Cafodd ei weld ar gamerâu cylch cyfyng yn cerdded trwy faes parcio siop Toys'R'Us ym Mharc Tawe cyn croesi'r bont ar Quay Parade i lan ddwyreiniol Afon Tawe.

Y noson yr aeth ar goll roedd yn gwisgo jîns glas golau, crys glas a siwmper "burgundy" ac esgidiau brown.

Mae timau arbenigol wedi bod yn chwilio'r ardal ar hyd y llwybr y byddai wedi teithio arno i gyrraedd adref ac mae hofrennydd yr heddlu, timau chwilio a nofwyr tanddwr wedi bod yn helpu i chwilio'r afon.

'Siarad â'r teulu'

Dywedodd Prif Arolygydd Chris Truscott: "Mae'r chwilio wedi parhau ac rydym wedi bod yn siarad gyda theulu Jordan wrth i hynny ddigwydd.

"Mae mwy o luniau CCTV o Jordan wedi cael eu casglu o amryw leoliadau o amgylch y ddinas. Mae ein timau tanddwr wedi bod yn chwilio darn eang o Afon Tawe, ond heb lwyddiant hyd yma.

"Byddwn yn parhau i fonitro'r ardal."

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un â gwybodaeth allai fod o gymorth i'r ymchwiliad i ffonio'r heddlu ar 101, gan ddyfynnu'r cyfeirnod 1500468414.

Disgrifiad o’r llun,
Mae deifwyr wedi bod yn chwilio afon Tawe