Arweinwyr gwleidyddol yn edrych ymlaen at 2016
- Cyhoeddwyd

Mae'r Prif Weinidog wedi dweud bod cyflwyno system newydd ar gyfer rhoi organau yng Nghymru yn un o'r llwyddiannau mwyaf yn ystod "blwyddyn arbennig arall i Gymru".
Yn ei neges flwyddyn newydd, mae Mr Jones yn dweud bod Cymru yn "parhau, flwyddyn ar ôl blwyddyn, i wneud pethau rhagorol sy'n denu sylw ar draws y byd".
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, bod 2015 wedi bod yn flwyddyn wych i Gymru, a bod gan 2016 y potensial i fod yr un peth.
Yn ôl arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, mae'r flwyddyn "wedi dangos beth sy'n bosib ar y maes chwarae pan fo Cymru'n dod at ei gilydd", tra bod arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams, yn edrych ymlaen at "frwydr" yn etholiad y Cynulliad fis Mai.
'Gwaith caled'
Yn ei neges, dywedodd Mr Jones y byddai'r system newydd o roi organau yn achub bywydau, a'i fod yn falch bod y system wedi dod i rym wedi'r "holl waith caled a'r ymdrech".
Dywedodd hefyd bod mwy o bobl yn cael eu trin gan y gwasanaeth iechyd yng Nghymru nac erioed o'r blaen, ac felly y byddai buddsoddiad y llywodraeth hefyd yn parhau.
Yn ôl y prif weinidog mae "Cymru ar gerdded" ac mae gwasanaethau a'r economi yn dyst o'r gwelliannau.
Soniodd hefyd am lwyddiant Cymru ym myd y campau, gan ddweud mai "perfformiad tîm pêl-droed Cymru oedd y llwyddiant mwyaf ym myd y campau eleni, heb os".
Yr economi gafodd sylw neges Mr Crabb, ddywedodd ei fod wedi ymweld â nifer o gwmnïau mawr a bach dros y flwyddyn sy'n llwyddo.
Ychwanegodd: "Mae angen i bobl ar hyd a lled Cymru elwa o economi sy'n cryfhau, ac yn 2016 rydw i'n hyderus y byddan nhw."
Dywedodd hefyd bod 2015 wedi bod yn garreg filltir ar daith datganoli Cymru, fyddai'n arwain at "etholiad Cynulliad cyffrous a gwahanol iawn ym mis Mai wrth i wleidyddion Bae Caerdydd gael cyfrifoldeb am yr arian y maen nhw'n ei wario".
'Cymru'n ennill'
Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood wedi galw am sicrhau mai 2016 yw'r flwyddyn pan fo "Cymru'n ennill ar y cae ac oddi arno".
Dywedodd bod angen i arweinwyr gryfhau er mwyn delio gydag argyfyngau'r byd, ond ychwanegodd bod 2015 yn flwyddyn i'w chofio oherwydd llwyddiant chwaraeon Cymru.
Cymrodd y cyfle i edrych ymlaen at etholiad y Cynulliad hefyd, gan ddweud: "Rwy'n edrych ymlaen at deithio ar hyd a lled y wlad a phledio achos Plaid Cymru a rhannu fy ngweledigaeth dros Gymru."
Edrych ymlaen at yr etholiad wnaeth arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol hefyd, a dywedodd Kirsty Williams bod ei phlaid yn dechrau 2016 "yn unedig, yn tyfu ac yn barod am frwydr".
Ychwanegodd: "Bydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn sicrhau bod llywodraeth yn gweithio drwy roi pobl yn gyntaf...
"Yn 2016 ein tasg fydd dangos i bobl y gallwn ni eu helpu i gyrraedd eu huchelgais".
Ond bydd arweinwyr y pedair plaid yn cadw llygad ar y sialens sydd i ddod gan UKIP ym mis Mai, gydag arolygon barn yn awgrymu y gall y blaid ennill nifer o seddi yn y Senedd.
Dywedodd eu harweinydd yng Nghymru, Nathan Gill, wrth gynhadledd y blaid yn yr hydref ei fod yn "obeithiol iawn" o ennill saith neu wyth sedd.
"Rydw i wedi darogan ers tipyn o amser y bydd Cymru yn dod yn un o'r ardaloedd cryfaf i UKIP o fewn y DU," meddai.
"Ym mis Mai fe wnawn ni weld hynny'n cael ei wireddu."