Cyngor i 'wario'i arian cyn uno' gyda siroedd eraill
- Cyhoeddwyd

Mae un awdurdod lleol yn bwriadu gwario'r arian sy'n cael ei gadw mewn cronfeydd wrth gefn oherwydd pryder am gynlluniau i uno cynghorau.
Yn siarad gyda BBC Cymru, dywedodd Cyngor Sir Gaerfyrddin mai'r bwriad yw gwario £20m ar hybu'r economi, wrth i'r trafod barhau ar gynllun i uno gyda Cheredigion a Sir Penfro.
Dywedodd pennaeth adnoddau Cyngor Sir Gar, David Jenkins, ei fod am i'r arian gael ei wario yn y sir, yn hytrach na'i rannu.
Dywedodd y llywodraeth ei fod yn "bwysig defnyddio cronfeydd wrth gefn yn strategol i gefnogi'r diwygiadau angenrheidiol. Byddwn yn gweithredu i atal unrhyw waredu anghyfrifol mewn perthynas â chronfeydd wrth gefn".
'Synnwyr cyffredin'
Er nad yw cynlluniau i uno cynghorau wedi eu cadarnhau, dywedodd Mr Jenkins y byddai tua £20m o'r £72m sydd gan y sir wrth gefn yn cael ei fuddsoddi mewn busnes.
Dywedodd ei fod am i arian Sir Gar aros o fewn Sir Gar: "Mae hynny yn synnwyr cyffredin. Y cwestiwn yr ydyn ni'n ei ofyn yw beth fydd yn digwydd i arian Sir Gaerfyrddin os ydyn ni'n gorfod uno gyda Sir Penfro a Cheredigion."Ychwanegodd: "O fewn y cronfeydd wrth gefn, mae arian lle mae'r pwrpas oedd wedi ei glustnodi wedi dod i ben. Dyna'r arian y byddwn yn ei fuddsoddi i wella'r economi yn y sir."
David Jenkins ac Ellen ap Gwynn
Ond nid yw pob cyngor yn cytuno gyda'r syniad. Dywedodd arweinydd Cyngor Ceredigion, Ellen ap Gwynn, na fyddai hi'n dilyn yr un esiampl.
"Gallwch chi ond gwario arian unwaith. Mae angen i ni allu parhau i gynnig gwasanaethau," meddai.
"Pwy a wyr beth fydd yn digwydd gyda'r stormydd, llifogydd ac eira. Mae angen i ni gadw arian yn ol er mwyn delio gyda phroblemau nad ydyn ni'n eu disgwyl.
"Yn bersonol, dydw i ddim yn rhagweld uno, felly does dim angen paratoi am y posibilrwydd. Dydw i ddim yn meddwl y bydd Llafur yn cael mwyafrif yn yr etholiad nesaf a felly ni fydd y cynlluniau'n mynd yn eu blaenau."
Mae'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews, wedi mynegi pryder am gynllun Sir Gaerfyrddin, a dywedodd y byddai'n "gweithredu i atal unrhyw wariant anghyfrifol".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'n bwysig defnyddio cronfeydd wrth gefn yn strategol i gefnogi'r diwygiadau angenrheidiol. Byddwn yn gweithredu i atal unrhyw waredu anghyfrifol mewn perthynas â chronfeydd wrth gefn."
Ychwanegodd: "Mae gan Weinidogion Cymru bwerau eisoes i osod isafswm ar gyfer y lefel o gronfeydd wrth gefn sy'n ofynnol i Awdurdod eu cynnal fel rhan o'r broses o osod y gyllideb."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2015